Y Dywysoges Gwenllian
- Erthygl am ferch Llywelyn ap Gruffudd yw hon. Gweler hefyd Gwenllian (gwahaniaethu).
Merch Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, a'i wraig Elinor, Arglwyddes Cymru, oedd y Dywysoges Gwenllian neu Gwenllian o Gymru (12 Mehefin 1282 - 7 Mehefin 1337), Tywysoges Gwynedd a Chymru. Hi oedd unig ddisgynnydd cyfreithlon Llywelyn o'i briodas ag Elinor (Elen), merch y barwn Simon de Montfort.
Y Dywysoges Gwenllian | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mehefin 1282 Bangor |
Bu farw | 7 Mehefin 1337 Priordy Sempringham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | lleian |
Tad | Llywelyn ap Gruffudd |
Mam | Elinor de Montfort |
Llinach | Llys Aberffraw |
Hanes
golyguCafodd Gwenllian ei geni yn llys tywysogion Gwynedd yn Aber Garth Celyn, Gwynedd, a bu ei mam farw wrth roi genedigaeth iddi. Mewn llai na blwyddyn roedd ei thad hefyd yn farw.
Ar ôl i Dywysogaeth Cymru syrthio, wedi lladd Llywelyn a dienyddio ei frawd Dafydd, bu erlid gan y Saeson ar ddisgynyddion uniongyrchol olaf Teulu Aberffraw. Roedd Eryri a chalon Gwynedd dan warchae ac am chwe mis neu ragor roedd milwyr Seisnig yn cael rhwydd hynt i wneud fel y mynnant.
Daliwyd Gwenllian. Roedd y Dywysoges ifanc yn amlwg yn berygl i Goron Lloegr ac o ganlyniad fe'i ducpwyd o Wynedd a'i charcharu am oes ym Mhriordy Sant Gilbert yn Sempringham, Lloegr, a hithau ond yn flwydd a hanner oed. Ac yno y bu tan ei marw yn 1337. Mae'n fwy na thebyg na siaradai Gymraeg ac na chlywodd air o Gymraeg gan y lleianod eraill. Yng nghofnodion Sempringham, nodir ei henw fel 'Wencilian', eu hynganiad o'i henw.
Codwyd carreg goffa iddi yn Sempringham yn 2001 gan Gymdeithas Gwenllian.
Ar y 1af o Fai 2009 cyhoeddwyd byddai enw Y Garnedd Uchaf, copa 3,000 m yn y Carneddau, yn cael ei newid yn swyddogol i Garnedd Gwenllian i gofio'r Dywysoges Gwenllian. Byddai Gwenllian yn ymuno felly a'i thad, ei mam a'i ewythr a goffeir eisoes yn enwau copaon eraill gerllaw, sef Carnedd Llywelyn, Yr Elen a Carnedd Dafydd. Bydd yr enw yn cael ei argraffu, gyda'r hen enw hefyd, ar fapiau OS newydd o Fedi 2009 ymlaen.[1]
Llinach
golyguLlywelyn Fawr 1173-1240 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gruffudd ap Llywelyn Fawr 1200-1244 | Dafydd ap Llywelyn 1215-1246 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Goch ap Gruffydd d. 1282 | Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn yr Ail) 1223-1282 | Dafydd ap Gruffydd 1238-1283 | Rhodri ap Gruffudd 1230-1315 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Y Dywysoges Gwenllian 1282-1337 | Llywelyn ap Dafydd 1267-1287 | Owain ap Dafydd 1265-1325 | Gwladys (m. 1336 yn Sixhills) | Tomas ap Rhodri 1300-1363 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Owain Lawgoch 1330-1378 | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Carnedd Uchaf renamed after last Welsh princess", Daily Post, 01.05.2009.