Pab Alecsander VI: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 13:
==Bywyd==
[[Delwedd:C o a Alessandro VI.svg|bawd|chwith|150px|Arfbais Alecsander VI]]▼
Ganed Roderic Llançol i de Borja yn [[Xàtiva]], ger [[Valencia]] yn [[Sbaen]] fodern; ffurf Eidaleg ar yr enw ydy Borgia. Roedd ei ewythr ar ochr ei fam, Alonso de Borja, yn esgob Valencia a gafodd ei ddyrchafu yn hwyrach i statws [[cardinal]], ac fe roddodd ef lwyth o fywoliaethau eglwysig i'w nai.<ref name="Campbell">{{cite book|last=Campbell|first=Gordon|title=The Oxford Dictionary of the Renaissance|location=Rhydychen ac Efrog Newydd|publisher=Gwasg Prifysgol Rhydychen|pages=130–1}}</ref> Ym 1456, ar ôl ei astudiaethau ym mhrifysgol [[Bologna]], crëwyd Rodrigo Borgia yn gardinal gan ei ewythr, a oedd bellach wedi'i ethol yn Bab ac yn dwyn yr enw [[Callistus III]]. Ym 1457 penodwyd y Cardinal Borgia yn Is-ganghellor y [[Eglwys Gatholig Rufeinig|Sedd Sanctaidd]], swydd a oedd yn ei wneud yn un o'r cardinaliaid cyfoethocaf.<ref name="Kelly">{{cite book|last=Kelly|first=J. N. D
▲[[Delwedd:C o a Alessandro VI.svg|bawd|chwith|150px|Arfbais Alecsander VI]]
Yn dilyn marwolaeth [[Innocentius VIII]] ym 1492, llwyddodd Borgia twy lwgrwobwyaeth i gael ei hun wedi'i ethol yn bab, a cymerodd yr enw Alecsander VI.<ref name="Campbell"/> Defnyddiodd ei safle i sicrhau statws a chyfoeth ei deulu. Penododd ei fab hynaf, Juan, yn Ddug [[Gandía]] (yn Sbaen) ac ym 1492 rhoddodd sawl esgobaeth i'w ail fab Cesare. Yn y flwyddyn olynol daeth Cesare ac [[Pab Pawl III|Alessandro Farnese]], mab meistres diweddaraf y pab, Giulia Farnese, yn gardinaliaid. Trefnodd Alecsander briodasau gwleidyddol ar gyfer Lucrezia, a oedd weithiau'n llywodraethu fel rhaglyw pan oedd ei thad i ffwrdd o Rufain. Ym 1497 lladdwyd Juan, ac roedd amheuon mai Cesare oedd wedi trefnu'r llofruddiaeth. Yn y flwyddyn olynol gwadodd Cesare ei deitlau eglwysig a dechreuodd yrfa newydd fel milwr llwyddiannus ym myddin y Pab.
|