Cyfieithu enwau adeiladau CADW

golygu

Helo Marc! Diolch yn fawr am cyfrannu at hyn. Roedd rhaid i mi cloi'r ddogfan am sbel heddiw er mwyn i mi llwtho'r hyn sydd wedi neud yn barod a tynnu nhw o'r ddogfen. Ond dyle fod mynediad eto i'r ddogfen erbyn hyn. Byddaf yn parhau i hyrwyddo a rheoli'r tasg yma dros y flwyddyn nesaf. Cofion gorau Jason.nlw (sgwrs) 13:45, 22 Mawrth 2021 (UTC)Ateb

Diolch Jason. Mae'n amhosib golygu'r tab Sir Benfro ar hyn o bryd; rwy eisiau rhoi Ffynnonau fel y ffurf Gymraeg fwy safonol ar gyfer plasty "Ffynone". Dyma ychydig o dystiolaeth: "The present house at Ffynone (also sometimes spelt Ffynnonau)" (CBHC); "Ffynone; (F)fynnone; (F)fynnonau," (Coflein); "Ffynone, also known as Ffynnonau" Ham II (sgwrs) 12:09, 27 Mawrth 2021 (UTC).Ateb
Sori am yr oedi yn dod yn ol i ti. Trio Benfro eto nawr a rowch gwybod os wyt ti dal yn cael problemau. Diolch! Jason.nlw (sgwrs) 09:29, 7 Ebrill 2021 (UTC)Ateb

Teitlau ffilmiau

golygu

Rwy'n sylwi eich bod wedi bod yn creu ailgyfeiriadau i ffilmiau o sioeau cerdd, gan dynnu'r labeli "(ffilm)" o'r teitlau. (My Fair Lady ayyb.) Dwyf i ddim yn meddal mai dyma’r ffordd orau o weithredu. Y sioeau cerdd ddylai gael blaenoriaeth, a hyd yn oed os nad yw'r erthyglau hynny wedi'u creu eto (rwy'n credu mai dim ond Oklahoma! sydd gennym ni ar hyn o bryd), dylem ni gadw'r teitlau plaen ar eu cyfer. Nid yw’n fater o bwys enfawr, ond rwy’n meddwl ei fod yn mynd i’r cyfeiriad anghywir. Hwyl, Dafydd. Craigysgafn (sgwrs) 12:25, 27 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb

@Craigysgafn: Diolch am y sylw. Y peth cyntaf i esbonio yw fy mod i'n gwneud hyn am fod erthyglau ar ffilmiau a grewyd gan fot wedi achosi dyblygiadau o erthyglau oedd yn barod mewn bod mewn sawl achos – e.e. My Fair Lady, pan oedd My Fair Lady (ffilm) wedi bodoli ers 2008. Gellir gweld nifer o'r rhain ar y teclun Duplicity, sy'n dangos erthyglau heb gysylltiadau â Wicidata; fel rheol mae'r cysylltiadau wedi symud o'r erthyglau hŷn i'r rhai newydd. Fy nheimlad yw bod yr arfer o beidio defnyddio'r teitl plaen (h.y. heb gromfachau) wedi achosi i'r erthyglau dyblyg hyn gael eu creu. Os oedd angen cadw teitlau amwys fel My Fair Lady ar gyfer yr hyn a ddaeth cyn y ffilmiau, byddai wedi bod yn well eu gwneud yn dudalennau gwahaniaethu dros dro yn fy marn i. Wrth gyfuno'r parau o erthyglau ar yr un ffilmiau rwy wedi tueddu ffafrio'r teitl plaen, gan ddilyn yr egwyddor o wahaniaethu dim ond pan fo bodolaeth erthygl arall yn gwneud hynny'n angenrheidiol.
Ond does dim rhaid i fi wneud felly; gallwn i wneud y gwrthwyneb fel bod (er enghraifft) Breakfast at Tiffany's yn ailgyfeirio am y tro at Breakfast at Tiffany's (ffilm). Yn y pen draw, gall cynnwys Breakfast at Tiffany's fod yn un o ddau beth: (A) erthygl ar y gwaith gwreididol gyda'r teitl yma, sef y llyfr gan Truman Capote (en:Breakfast at Tiffany's (novella)), neu (B) tudalen wahaniaethu (sef beth mae'r Saesneg wedi gwneud yn yr achos yma: en:Breakfast at Tiffany's). Rwy wedi arbrofi gyda chreu tudalen gwahaniaethu dros dro ar gyfer Wuthering Heights, a symud yr erthygl oedd yno (a grewyd gan y bot) i Wuthering Heights (ffilm 1939); yn y pen draw gellid cael erthygl ar y nofel wreiddiol dan y teitl plaen a symud y dudalen wahaniaethu i Wuthering Heights (gwahaniaethu).
Ga i awgrymu'r canlynol felly: os yw'r teitl amwys yn deitl gwaith creadigol y mae'r ffilm yn seiliedig arni, byddaf yn cadw'r ôl-ddodiad '(ffilm)' ar gyfer y ffilm. Am yn awr, byddai'r teitlau plaen yn ailgyfeirio at yr erthyglau am y ffilmiau, ond maes o law gallent fod yn dudalennau gwahaniaethu neu erthyglau ar y pynciau coll. Ydy hyn yn dderbyniol? Hwyl, Marc. Ham II (sgwrs) 15:14, 28 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb
Wrth gwrs, nes ymlaen, ar ôl imi ysgrifennu'r nodyn uchod, mi welais eich bod wedi dechrau ar greu tudalennau gwahaniaethu, a gallwn i weld bod gennych chi system. Roeddwn i'n pryderu ein bod yn dilyn egwyddorion croes. Ond peidiwch â phoeni, bydd eich cynllun yn berffaith iawn. Diolch am eich gwaith ardderchog! Hwyl, Dafydd Craigysgafn (sgwrs) 15:32, 28 Rhagfyr 2022 (UTC)Ateb
Rwan dw i'n gweld hwn, a'r holl waith ti'n ei wneud Marc! Fantastig! Doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r teclyn Duplicity cyn hyn! Addas iawn! Fel mae Craigysgafn yn ei ddweud, mae dy resymeg ynglyn ag ailgyfeirio yn gwneud synnwyr! Dw i'n cymryd fod y rhestr yn lleihau'n otomatig pob pythefnos; byddai'n dda pe gellid dileu hefyd gyda llaw a llygad yn y fan a'r lle, rhag achosi dyblygu gwaith i eraill. Mae llawer o erthyglau ar y rhestr hon gan i'r bot feth gwneud cysylltiad o'r erthygl i Wicidata ee dw i newydd gysylltu Tik Tik Tik i Wicidata ac mae'n edrych gan mil gwell. Diolch eto! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:40, 29 Mawrth 2023 (UTC)Ateb
Newydd weld fod y rhestr yn lleihau, dim ond ailgyrchu'r dudalen! Digon da! Llywelyn2000 (sgwrs) 10:42, 29 Mawrth 2023 (UTC)Ateb