Llyn Cerrig Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Llyn Cerrig Bach''' yn lyn bychan yng ngogledd-orllewin [[Ynys Môn]], gerllaw maes awyr y Fali ac heb fod ymhell o bentref [[Caergeiliog]]. Mae'n adnabyddus oherwydd i nifer fawr o eitemau o [[Oes yr Haearn]] gael eu darganfod yno yn [[1942]]; i bob golwg wedi eu rhoi yn y llyn fel offrymau. Ystyrir y rhain ymysg y casgliadau pwysicaf o gelfi [[La Tène|La Tène]] yn yr [[Ynysoedd PrydeinigPrydain]].
 
Gwnaed y darganfyddiad pan oedd y tir yn gael ei glirio i adeiladu maes awyr i'r [[Llu Awyr Brenhinol]] ger [[Y Fali]]. Roedd [[mawn]] yn cael eu gasglu er mwyn ei daenu dros y tir tywodlyd, a chafwyd hyd i'r celfi wrth gasglu mawn o Gors yr Ynys ar lan ddeheuol Llyn Cerrig Bach. Y peth cyntaf i'w ddarganfod oedd cadwyn haearn, wedi ei bwriadu ar gyfer caethweision. Nid oedd neb yn sylweddoli fod y gadwyn yn hen, ac fe'i defnyddiwyd i dynnu lorïau o'r mwd gyda thractor. Er ei bod tua 2,000 o flynyddoedd oed, gallodd wneud y gwaith yma heb broblemau.