Eglwys Gadeiriol Aberhonddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B clean up, replaced: Graddfa I → Gradd I using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Brecon Cathedral.JPG|250px|bawd|Eglwys Gadeiriol Aberhonddu.]]
[[Eglwys gadeiriol]] fechan yw '''Eglwys Gadeiriol Aberhonddu''' a leolir yn [[Aberhonddu]], [[Powys]]. Nid yw'n hynafol iawn yn ei ffurf bresennol ond mae ei gwreiddiau'n gorwedd yn y [[12fed ganrif]] a chyfnod y [[Normaniaid]] yn [[Aberhonddu]].
 
==Priordy Ioan Efengylydd==
[[Delwedd:Eglwys Aberhonddu D.Cox W.Radclyffe.JPG|300px|bawd|'''Eglwys Gadeiriol Aberhonddu''' tua chanol y [[19eg ganrif]]]]
Sedydlwyd Priordy [[Urdd Sant Benedict|Benedictaidd]] [[Ioan]] Efengylydd tua chanol y [[12fed ganrif]] pan roddodd yr Arglwydd [[Bernard Newmarch]] eglwys Aberhonddu i [[Abaty Battle]] yn [[Sussex]]. Buasai [[Gerallt Gymro]] yn archddiacon yn y priordy yn [[1172]]. Yn ddiweddarach galwodd yno gyda [[Baldwin, Archesgob Caergaint]] yn [[1188]] yn ystod ei [[Hanes y Daith Trwy Gymru|daith trwy Gymru]] yn y flwyddyn honno, ar ei ffordd o [[Henffordd]] i [[De Cymru|dde Cymru]]. Dyma hoff eglwys [[Reginald de Braose]] (m. [[1211]]), tad [[Gwilym Brewys]] (m. [[1230]]), cariad [[Siwan]] gwraig [[Llywelyn Fawr]], a oedd yn perthyn i deulu lleol [[Teulu de Breos|de Breos]]: ''yr eglwys a garaf fwy na'r lleill i gyd''. Cyfrannai ei deulu'n hael i'r eglwys a'r priordy.
 
Nid oes llawer wedi parhau o'r adeilad Benedictaidd. Mae'r rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn dyddio o'r [[13eg ganrif]] a'r ganrif olynol. Roedd cymeriad y priordy wedi dirwyio pan ymwelodd [[Pecham, Archesgob Caergaint]] yn [[1283]] a chyhuddo'r prior o fod yn feddw ac anostest. Yn [[1291]] wyth fynach ac un prior oedd yno a gwerth y priordy yn £122 gan ei wneud yn un o'r cyfoethocaf yng Nghymru.
Llinell 10:
==Yr eglwys ganoloesol==
[[Delwedd:Aberhonddu beddfaen A01.JPG|150px|bawd|chwith|Beddfaen Normanaidd o '''Eglwys Gadeiriol Aberhonddu''']]
Yn yr [[Oesoedd Canol]] roedd yr eglwys yn enwog am ei [[Crog|Chrog]]. Cerflun anferth o groes [[Crist]] oedd hi, yn hongian uwchben yr Ysgrîn a rannai'r eglwys yn ddau - un hanner i'r lleygwyr a'r llall i'r mynachod. '''Crog Aberhonddu''' oedd ei henw, a cheir nifer o gyfeiriadau ati yng ngwaith [[Beirdd yr Uchelwyr]] ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Roedd yn aur i gyd a chredid ei bod yn gallu iacháu'r claf. Roedd pobl yn dod ar [[Pererindota|bererindod]] iddi o bob rhan o dde Cymru a'r Gororau.
 
Cafodd y Grog ei difetha pan ddiddymwyd y priordy yn [[1534]], ond yn ffodus mae nifer o gerrig bedd canoloesol gyda chroesau blodeuog cerfiedig arnynt i'w gweld o gwmpas yr eglwys o hyd. Mae'r [[bedyddfaen]] Normanaidd wedi goroesi hefyd; mae'n enwog am y 30 o gwpannau wedi'u cerfio oddi amgylch ei wefus.
 
==Yr eglwys heddiw==
Cafodd ei hatgyweirio'n sylweddol, fel nifer o eglwysi eraill, yn y [[19eg ganrif]]. Gyda [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]] yn [[1923]], crewyd [[Abertawe ac Aberhonddu|esgobaeth newydd ar gyfer Aberhonddu ac Abertawe]] gydag eglwys Aberhonddu yn eglwys gadeiriol iddi.
 
Hefyd yn yr eglwys mae Capel Harvard, capel y ''South Wales Borderers'', y milwyr o dde Cymru a ymladdant ym [[Brwydr Rorke's Drift|Mrwydr Rorke's Drift]] yn [[De Affrica|Ne Affrica]], ynghyd â'u baner ym [[Brwydr Isandhlawana|Mrwydr Isandhlawana]] (1879).
Llinell 23:
 
[[Categori:Aberhonddu]]
[[Categori:Adeiladau rhestredig GraddfaGradd I Powys]]
[[Categori:Eglwysi cadeiriol Cymru|Aberhonddu]]
[[Categori:Hanes Powys]]