Rhodri Glyn Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Aelod Cynulliad [[Plaid Cymru]] dros Etholaeth [[Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr (etholaeth Cynulliad)|Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr]] ers [[1999]] yw '''[[Rhodri Glyn Thomas]]''' (ganwyd [[11 Ebrill]] [[1953]]).
 
Ganwyd ef yn [[Wrecsam]], gweinidog o [[Llangadog|Langadog]] oedd tadcu Rhodri Glyn Thomas. Magwyd ei dad yn Llangadog a bu'n athro yn Ysgol Ramadeg y [[Gwendraeth]]. Aeth Rhodri i Ysgol Bodhyfryd, Wrecsam, ac yna i Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam cyn gadael am [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Brifysgol Cymru, Aberystwyth]] ym [[1975]] i astudio am radd yn y [[Gymraeg]]. Wedi graddio ym [[1978]], astudiodd am radd BD mewn [[Diwinyddiaeth]] ym [[Prifysgol Cymru, Bangor|Mhrifysgol Cymru, Bangor]]. Ym [[1991]] astudiodd Rhodri am radd MTh ym [[Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan|Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan]], yn darllen [[Diwinyddiaeth]] [[Yr Unol Daleithiau|Americanaidd]].