House of America (ffilm): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Gwybodlen Ffilm |enw=House of America |blwyddyn=1997 |amser_rhedeg=93 munud |cyfarwyddwr=Marc Evans |ysgrifennwr=Edward Thomas |cynhyrchydd=Sheryl Cro...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 13:09, 29 Awst 2014
Ffilm a ryddhawyd ym 1997 yw House of America, wedi'i addasu o’r ddrama lwyfan House of America gan Ed Thomas. Wedi’i lleoli mewn tref fechan yn y cymoedd, mae’r ffilm yn olrhain hanes y teulu Lewis; y Fam a’i phlant, Sid, Boyo, a Gwenny. Er bod eu tad yn absennol ar ôl iddo ffoi i’r Amerig flynyddoedd ynghynt, mae cysgod ei ddihangfa yn gyson bresennol. Er i’r ffilm gael ei lleoli yn y Cymoedd mae ynddi atseiniau thematig cryf o fytholegau’r ddrama lwyfan Americanaidd glasurol: y tensiwn sy’n bodoli rhwng caethiwaeth saff y gofod domestig a’r dyhead i ddianc i’r ehangder peryglus tu hwnt i ffiniau’r cartref.
Cyfarwyddwr | Marc Evans |
---|---|
Cynhyrchydd | Sheryl Crown |
Ysgrifennwr | Edward Thomas |
Cerddoriaeth | John Cale |
Sinematograffeg | Pierre Aïm |
Dylunio | Mark Tildesley |
Amser rhedeg | 93 munud |
Cast a chriw
Prif gast
- Siân Phillips (Mam)
- Matthew Rhys (Boyo)
- Lisa Palfrey (Gwenny)
- Richard Harrington (Cat)
Cast cefnogol
- Islwyn Morris (Roger the Pop)
- Brian Hibbard (Wally)
- Steven Speirs (The Head)
- Dave Duffy (Molloy)
- Connor McIntyre (Matty)
- Andrew Lennon (Off License Man)
- Donna Edwards (Receptionist)
- Stella King (Woman with Budgie)
- Ron Mills / Glen Finick / Terry Arnold / Alan Jones / John Weathers / Dana Colwill (Regular Miners)
Cydnabyddiaethau eraill
- Cyd-Gynhyrchydd – Hans de Weers
- Uwch Gynhyrchydd – David Green
- Colur – Pamela Haddock
- Cynllunydd Gwisgoedd – Jany Temime
Manylion technegol
Tystysgrif ffilm: Untitled Certificate
Fformat saethu: 35mm
Lliw: Lliw
Iaith Wreiddiol: Saesneg
Lleoliadau Saethu: De Cymru a Calgary, Alberta
Gwobrau:
Gŵyl ffilmiau | Blwyddyn | Gwobr / enwebiad | Derbynnydd |
---|---|---|---|
Gŵyl Ffilm Stockholm | 1997 | Best Directorial Debut | Marc Evans |
BAFTA Cymru | 1998 | Drama Orau – Saesneg | Sheryl Crown |
Gwisgoedd Gorau | Jany Temime | ||
Cynllunio Gorau | Mark Tildesley | ||
Cyfarwyddwr Gorau | Marc Evans |
Llyfryddiaeth
Llyfrau
- Blanford, Steve, Film, Drama and the Break-up of Britain (Bristol: Intellect, 2007) tt. 92, 93, 97–8, 155, 176.
Adolygiadau
- (Saesneg) Hamilton, Jake. House Of America. Empire. Adalwyd ar 29 Awst 2014.
- (Saesneg) House of America. Total Film (10 Hydref 1987). Adalwyd ar 29 Awst 2014.
- (Saesneg) "NF". House of America. TimeOut. Adalwyd ar 29 Awst 2014.
- Robin Gwyn, "Troi’r gwleidyddol yn adloniant." Golwg, Cyfrol 10 Rhif 7, Hydref 16 1997. t. 23.
Erthyglau
- Top 10 Welsh films: House Of America. Wales Arts. BBC Cymru (25 May 2010). Adalwyd ar 29 Awst 2014.
- Beca Brown, "Man Gwyn Man Draw" Barn, Rhif 418, Tachwedd 1997.
Dolenni allanol
- (Saesneg) House of America (ffilm) ar wefan Internet Movie Database