Richard Harrington

Actor o Gymro yw Richard Harrington (ganed 12 Mawrth 1975).

Richard Harrington
Ganwyd12 Mawrth 1975 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Harrington yn Gurnos a magwyd yn Dowlais, Merthyr Tudful.[1] Cafodd Harrington rannau blaenllaw yn y cyfresi teledu Bleak House, Gunpowder, Treason & Plot gan Jimmy McGovern a ffilm gomedi The All Together gan Gavin Claxton. Mae e hefyd wedi cael rhannau ar Coronation Street, Spooks, Casualty, Holby City, Hustle, Daziel and Pascoe, Silent Witness a Lark Rise to Candleford. Enillodd Wobr BAFTA Cymru am ei bortread o butain hoyw ifanc yn y ffilm Dafydd.

O ran ei berfformiadau llwyfan, teithiodd ledled y wlad gyda chynhyrchiad Fiction Factory/ Y Cwmni o ddramâu Ed Thomas House of America, Gas Station Angel a Stone City Blue.

Mae Harrington yn siarad Cymraeg fel ail iaith. Fe siaradodd Gymraeg drwy gydol ffilmio y gyfres ddrama dditectif a Y Gwyll, lle roedd yn chwarae'r prif ran fel ditectif. Fe ddywedodd fod y saith mis yn ffilmio Y Gwyll wedi ei wneud yn fwy rhugl o lawer.[2]

Fe gymerodd rhan yn Marathon Eryri 2012 a 2013 gyda'i ffrind a chyd-actor Mark Lewis Jones.[3]

Bywyd personol

golygu

Mae gan Harrington ddau fab, Ralff Joseff (ganwyd 18 Chwefror 2006) a Ned (ganwyd 2007) gyda'i gyn-bartner Nerys Phillips[4].

Ffilmyddiaeth

golygu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1987 The District Nurse Donald Turner Cyfres deledu (1 pennod: "A Blind Edge")
1989 Screen One Cyfres deledu (1 pennod: "Nineteen 96")
1993 Wales Playhouse - Dafydd Dafydd/Sion Drama deledu (2 bennod: 1993-1995)
Gwobr BAFTA Cymru - Yr Actor Gorau
1994 Gadael Lenin Charlie
1995 Oliver's Travels Myfyriwr Cyfres deledu fer
A Mind to Kill Paul Tam Cyfres deledu (3 pennod: 1995-1997)
1997 The Proposition Evan
House of America Cat
Tiger Bay Warwick Cyfres deledu (3 pennod)
Breeders Jack
1999 Oh Little Town of Bethlehem Martin Short
Coronation Street Owen Williams Cyfres deledu (2 bennod)
2000 Care Tony Collins Ffilm deledu
2001 Score Neil Ffilm deledu
A Day Out Girl's Father Ffilm fer
2002 High Speed Spike
The Ride Spike
The Hidden City Barney Cyfres deledu
Mule Ray Ffilm fer
2003 Rehab Powell Ffilm deledu
Holby City Lee Walmsley Cyfres deledu (1 pennod: "By Any Other Name")
2004 Secret Passage Joseph
Mathilde Babyface
Gunpowder, Treason & Plot Thomas Percy Ffilm deledu
Hustle Sam Richards Cyfres deledu (1 pennod: "Cops and Robbers")
Silent Witness Stephen Barnes Cyfres deledu (2 bennod)
Spooks Will North Cyfres deledu (6 pennod)
2005 Dalziel and Pascoe Gary Mileham Cyfres deledu (2 bennod)
Bleak House Allan Woodcourt Cyfres deledu fer (7 pennod)
2006 Casualty Jerry Goater Cyfres deledu (1 pennod: "Last Orders")
Ancient Rome: The Rise and Fall of an Empire Yohanon Cyfres deledu (1 pennod: "Rebellion")
Daddy's Girl Stephen
2007 M.I. High Tommy Blumenheck Cyfres deledu (1 pennod: "Don't Cook Now")
Five Days Daf Parry Cyfres deledu (2 bennod)
The All Together Jerry Davies
"The Contractor" Terry Mitchell Fideo
Y Pris Stuart Cyfres deledu (1 pennod: "Parch (Respect)")
Sold Paul Bamforth Cyfres deledu(1 pennod: "Episode No. 1.3")
Holby Blue DS Luke French Cyfres deledu (20 pennod: 2007-2008)
2008 Strap-on Owl Beak Actor Ffilm fer
Hope Eternal Evan
New Tricks Ash Cyfres deledu (1 pennod: "Communal Living")
2009 Missing Ryan Long Cyfres deledu (1 pennod: "Episode No. 1.5")
Land Girls Adam Blackfield Cyfres deledu (2 bennod)
Collision James Taylor/Ben Hickman Cyfres deledu (3 pennod)
2010 Midsomer Murders Leo Fincher Cyfres deledu (1 pennod: "Blood on the Saddle")
Pen Talar Defi Lewis Cyfres deledu
2011 Lark Rise to Candleford Gabriel Cochrane Cyfres deledu
2013 Y Gwyll DCI Tom Mathias Cyfres deledu
2015 Poldark Captain Andrew Blamey Cyfres deledu
2016 Stella Ian Meyer Cyfres deledu
2016 "My Grandfather's War" Rhaglen ddogfen gan y BBC am y dynion aeth i ymladd yn erbyn ffasgiaeth yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen[5]
2017 Requiem Aron Cyfres deledu
2017 Inspector George Gently Michael Clements Cyfres deledu

Theatre

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gurnos-born actor Harrington nominated for S4C drama role
  2. "Scandi-style crime thriller showcases the land of my fathers, says Richard Harrington". Wales Online. 4 January 2014. Cyrchwyd 2014-01-20.
  3. "31st Snowdonia Marathon Eryri 2013". Welsh Athletics. Cyrchwyd 2014-01-20.
  4. 3 Lle: Richard Harrington, S4C; Adalwyd 2015-12-13
  5. "The men who left the Valleys to fight fascism in Spain". BBC News. 15 April 2017. Cyrchwyd 16 April 2017. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)