Y Swyddfa Gymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Dolenni allanol: newidiadau man using AWB
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B dolen Tŷ Gwydyr
Llinell 1:
Adran o lywodraeth [[y Deyrnas Unedig]] a oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o feysydd polisi [[Cymru]] oedd '''y Swyddfa Gymreig''' ([[1965]] - [[1999]]). Sefydlwyd y Swyddfa Gymreig ym [[1965]] gan [[Ysgrifennydd Gwladol Cymru]] er mwyn gweithredu polisïau Llywodraeth Prydain yng Nghymru. Daethai swydd yr Ysgrifennydd Gwladol i fodolaeth ym mis Hydref y flwyddyn gynt. [[Tŷ Gwydyr]] yn [[Whitehall]], [[Llundain]] oedd cartref y Swyddfa Gymreig.
 
Roedd cyfrifoldebau'r Swyddfa Gymreig yn cynnwys iechyd, addysg, [[Cymraeg|yr iaith Gymraeg]] a'r diwylliant Cymreig, [[llywodraeth leol]], gwasanaeth dŵr a [[carthffosiaeth|charthffosiaeth]], amddiffyn yr amgylchedd a [[Cadwraeth|chadwraeth]] natur, [[defnydd tir]], [[amaethyddiaeth]], [[coedwigaeth]] a [[pysgodfeydd|physgodfeydd]], [[henebion]], [[cynllunio gwlad]] a [[cynllunio tref|thref]], ffyrdd, [[twristiaeth]], gweithrediad [[Cronfa Ddatblygu Ewrop]] yng Nghymru a materion eraill yr [[Undeb Ewropeaidd]]. Wrth ei sefydlu, felly, cymerodd y Swyddfa Gymreig gyfrifoldeb am faterion yr oedd sawl adran wahanol o lywodraeth y DU yn gyfrifol amdanynt cyn hynny.