Dafydd Ddu Eryri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 47:
Roedd yn adnabyddus yn ei ddydd am ei [[awdl]]au, [[carol]]au a cherddi moesol a chrefyddol. Enillodd y fedal arian am ei awdl 'Rhyddid' yn [[eisteddfod]] y [[Gwyneddigion]] yn [[Llanelwy]], [[1790]]. Er nad yw o lawer o werth llenyddol mae'n mynegi'r wrthwynebiad cynnydol i [[Caethwasiaeth|gaethwasaieth]]. Enillodd dlwas arall yn eisteddfod y Gwyneddigion yn [[Llanrwst]], [[1791]]. Cyhoeddwyd detholiad o waith y bardd yn y gyfrol ''Corph y Gaingc'' yn [[1810]].
 
Er iddo dreulio peth amser yng nghylch y Gwyneddigion ni fedrai ddygymod â [[Radicaliaeth]] y mudiad a syniadau rhyfedd [[William Owen Pughe]] am yr iaith [[Gymraeg]] a'i horgraff. Yn [[1783]] sefydlodd gymdeithasau llenyddol mewn gwahanol rannau o [[Arfon]] i hyrwyddo [[cerdd dafod]] a chodi safonau llenyddol ei fro, gan gynnwys 'Cymdeithas yr Eryron' a fu'n cwrdd yn nhafarn y Bull's Head ym [[Bontnewydd|Mhontnewydd]]. Yn [[1795]] trefnodd eisteddfod ym [[Penmorfa|Mhenmorfa]].
 
Creuodd gylch o ddisgyblion oedd yn cynnwys [[Robert Morris]] 'Robin Ddu Eifionydd' (c. 1767-1816), [[Elis Wyn o Wyrfai]] (1827-1895), [[Griffith Williams (Gutyn Peris)]] (1769-1838), [[William Williams (Gwilym Peris)]] (1769-1847), [[Richard Jones (Gwyndaf Eryri)]] (1785-1848), [[William Edwards (Gwilym Padarn)]] a'i fab [[Griffith Edwards (Gutyn Padarn)]], [[Owen Williams (Owain Gwyrfai)]] o Waunfawr a [[William Ellis Jones (Cawrdaf)]]. Fel "Cywion Dafydd Ddu" yr adnabyddid y beirdd hyn. Er nad oes llawer o lewyrch ar eu gwaith yn ôl safonau beirniadol heddiw bu gan y beirdd lleol hyn, llawer ohonynt yn chwarelwyr neu dyddynwyr, rôl bwysig i chwarae yn cynnal traddodiad yr eisteddfod a rheolau cerdd dafod yn y cymunedau chwarel a dyfodd yn Eryri yn y [[19eg ganrif]], yn arbennig yn ardaloedd [[Dyffryn Nantlle]] a [[Llanberis]].
Llinell 66:
[[Categori:Pobl o Arfon]]
[[Categori:Pobl fu farw trwy foddi]]
 
{{Authority control}}