Agor y brif ddewislen

Dafydd Ddu Eryri

bardd Cymraeg

Roedd David Thomas, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Dafydd Ddu Eryri (175930 Mawrth 1822) yn fardd ac athro beirdd a aned yn Waunfawr yn yr hen Sir Gaernarfon (Gwynedd).

Dafydd Ddu Eryri
Dafydd Ddu.JPG
Ganwyd 1759 Edit this on Wikidata
Eglwys Sant Mihangel Edit this on Wikidata
Bu farw 22 Rhagfyr 1822 Edit this on Wikidata
Achos: boddi Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata
Llechen ar gartref Dafydd Du yn Waunfawr

BywgraffiadGolygu

Roedd yn fab i wehydd ac ym more ei oes bu yntau'n dilyn yr un alwedigaeth. Cafodd fymryn o addysg elfennol gan glerigwr lleol ac aeth yn athro ysgol lleol yn fuan ar ôl marwolaeth ei dad yn 1781. Daeth yn ffigwr pwysig yn niwylliant ei fro a hybai safonau barddoniaeth a dysgodd lu o feirdd lleol. Treuliodd y rhan olaf o'i oes yn Llanrug.

Bu farw trwy foddi yn Afon Cegin ar noson ystormus, 30 Mawrth 1822; cafwyd hyd i'w gorff dranoeth yn ymyl i'r sarn a geisiasai groesi.

Fe'i claddwyd ym mynwent Llanrug a chodwyd cofgolofn yno gan ei gymwynaswr Peter Bailey Williams, person y plwyf, i nodi ei fedd.

 
Portread o David Thomas (Dafydd Ddu), Eryri

Gwaith llenyddolGolygu

Roedd yn adnabyddus yn ei ddydd am ei awdlau, carolau a cherddi moesol a chrefyddol. Enillodd y fedal arian am ei awdl 'Rhyddid' yn eisteddfod y Gwyneddigion yn Llanelwy, 1790. Er nad yw o lawer o werth llenyddol mae'n mynegi'r wrthwynebiad cynnydol i gaethwasaieth. Enillodd dlwas arall yn eisteddfod y Gwyneddigion yn Llanrwst, 1791. Cyhoeddwyd detholiad o waith y bardd yn y gyfrol Corph y Gaingc yn 1810.

Er iddo dreulio peth amser yng nghylch y Gwyneddigion ni fedrai ddygymod â Radicaliaeth y mudiad a syniadau rhyfedd William Owen Pughe am yr iaith Gymraeg a'i horgraff. Yn 1783 sefydlodd gymdeithasau llenyddol mewn gwahanol rannau o Arfon i hyrwyddo cerdd dafod a chodi safonau llenyddol ei fro, gan gynnwys 'Cymdeithas yr Eryron' a fu'n cwrdd yn nhafarn y Bull's Head ym Mhontnewydd. Yn 1795 trefnodd eisteddfod ym Mhenmorfa.

Creuodd gylch o ddisgyblion oedd yn cynnwys Robert Morris "Robin Ddu Eifionydd" (c. 1767–1816), Elis Wyn o Wyrfai (1827–1895), Griffith Williams (Gutyn Peris) (1769–1838), William Williams (Gwilym Peris) (1769–1847), Richard Jones (Gwyndaf Eryri) (1785–1848), William Edwards (Gwilym Padarn) a'i fab Griffith Edwards (Gutyn Padarn), Owen Williams (Owain Gwyrfai) o Waunfawr a William Ellis Jones (Cawrdaf). Fel "Cywion Dafydd Ddu" yr adnabyddid y beirdd hyn. Er nad oes llawer o lewyrch ar eu gwaith yn ôl safonau beirniadol heddiw bu gan y beirdd lleol hyn, llawer ohonynt yn chwarelwyr neu dyddynwyr, rôl bwysig i chwarae yn cynnal traddodiad yr eisteddfod a rheolau cerdd dafod yn y cymunedau chwarel a dyfodd yn Eryri yn y 19g, yn arbennig yn ardaloedd Dyffryn Nantlle a Llanberis.

Marwolaeth Dafydd DduGolygu

 
Bedd Dafydd Ddu Eryri - Mynwent Eglwys Sant Mihangel, Llanrug, Gwynedd

Ar noson 30 Mawrth, 1822 cerddodd adref i Lanrug o Fangor ar ôl ymweld â rhai o glerigwyr llengar Môn, ac wedyn yn fwynhau yn un o dafarnau'r ddinas. Wrth geisio croesi'r Afon Cegin ger Pentir disgynnodd a boddodd mewn ychydig o fodfeddi o ddŵr.[1]

Ysgrifennwyd y canlynol i nodi ei farwolaeth:

Hon ydyw'r afon, ond nid hwn yw'r dŵr
A foddodd Ddafydd Ddu.[1]

CyfeiriadauGolygu

LlyfryddiaethGolygu

  • Charles Ashton, Hanes Llenyddiaeth Gymreig, o 1650 hyd 1850 (Lerpwl, 1893)
  • Bedwyr Lewis Jones, "The Literary Awakening in Arfon and Eifionydd", Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1977)
  • D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a Llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922)
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: