Augustus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn tynnu: uz:Ottaviano (strong connection between (2) cy:Augustus and uz:Avgust (imperator))
Awdurdod
Llinell 7:
Wedi i Cesar gael ei lofruddio yn [[44 CC]], datgelwyd yn ei ewyllys ei fod wedi nodi Octavius fel ei etifedd. Cymerodd Octavius yr enw ''Gaius Julius Caesar''. Ymunodd mewn cynghrair a [[Marcus Antonius]] a [[Marcus Aemilius Lepidus]] a chodwyd byddin i wrthwynebu y blaid oedd wedi llofruddio Cesar, oedd yn cael ei harwain gan [[Marcus Junius Brutus]] a [[Gaius Cassius]]. Wedi gorchfygu Brutus a Cassius ym [[Brwydr Philippi|Mrwydr Philippi]], datblygodd cweryl rhwng Octavius a Marcus Antonius, oedd yn cael ei gefnogi gan [[Cleopatra]], brenhines [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]]. Gorchfygwyd Antonius a Cleopatra ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]], a daeth Octavius yn unig reolwr yr ymerodraeth.
 
Cymerodd yr enw "Augustus" a'r teitl "Princeps". Dangosodd allu gwleidyddol anghyffredin i gadarnhau ei safle tra'n cadw llawer o nodweddion y cyfnod gweriniaethol, megis y [[Senedd Rhufain|Senedd]]. I bob golwg, y Senedd oedd yn rheoli Rhufain, ond mewn gwirionedd gan Augustus yr oedd y grym. Cymerodd rai blynyddoedd i ddatblygu fframwaith ar gyfer rheoli'r ymerodraeth. Ni dderbyniodd swydd ''dictator'' fel Iŵl Cesar pan gynigiwyd hi iddo gan bobl Rhufain. Rhoddodd y Senedd hawliau [[tribwn y bobl]] a [[censor]] iddo am oes, a bu'n gonswl hyd 23 CC. Yn rhannol, deilliai ei rym o'r ffaith mai ef oedd a rheolaeth dros y fyddin, ond deilliai hefyd o'i ''auctoritas'' (awdurdod) ef ei hun.
 
Er gwaethaf yr ymladd ar ffiniau'r ymerodraeth, dechreuodd teyrnasiad Augustus gyfnod o heddwch oddi mewn i'r ymerodraeth ei hun, y ''Pax Romana'' ("Heddwch Rhufeinig"). Heblaw am flwyddyn o ryfel cartref yn [[69]], parhaodd hwn am dros ddwy ganrif.
 
Bu Augustus farw ar [[19 Awst]], [[14]] OC, a dilynwyd ef gan [[Tiberius]]. Cafodd mis [[Awst]] ei enwi ar ei ôl.
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5
Llinell 19:
|width="30%" align="center"|'''Olynydd :<br />'''[[Tiberius]]
|}
{{eginyn Rhufain}}
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|ceb}}
Llinell 37 ⟶ 36:
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]
[[Categori:Pobl o Rufain]]
 
 
{{eginyn Rhufain}}
 
{{Authority control}}