Joan Miró: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
gwybodlen
Awdurdod
Llinell 24:
Ym 1939 symudodd Miró i fyw yn Varengeville, pentref bychan yn [[Normandi]], lle parhaodd i greu peintiadau a oedd yn crynhoi atgofion o blentyndod a chefn gwlad Montroig. Dychwelodd i Sbaen yn y flwyddyn olynol, pan ddechreuodd weithio â serameg.<ref name="Hopkins">{{dyf gwe|url=http://www.oxfordartonline.com/subscriber/article/opr/t118/e1759?q=Joan+Miro&search=quick&pos=2&_start=1#firsthit|teitl=Miró, Joan|cyfenw=Hopkins|enwcyntaf=Justine|gwaith=The Oxford Companion to Western Art|cyhoeddwr=Gwasg Prifysgol Rhydychen|dyddiadcyrchiad=10 Mai 2014|iaith=en}}</ref> O 1940 i 1941 creodd gyfres o weithiau o'r enw ''Constellaciones'' ("Cytserau") a chaiff eu hystyried ymhlith ei weithiau pwysicaf. Yn 1941 cynhaliwyd arddangosfa fawr o'i waith yn [[Amgueddfa Gelf Fodern (Efrog Newydd)|Amgueddfa Gelf Fodern]] [[Efrog Newydd]], a chwaraeodd hyn ran bwysig mewn sefydlu ei enw tu allan i Ewrop.<ref name="Grove"/> Cafodd sawl comisiwn cyhoeddus yn ei yrfa hwyr, gan gynnwys y murluniau serameg ''Mur du soleil'' ("Mur(lun) yr haul") a ''Mur de la lune'' ("Mur(lun) y lleuad"; 1956) ar gyfer pencadlys [[UNESCO]] ym Mharis.<ref name="Hopkins"/> Cynlluniodd hefyd [[tapestri|dapestri]] ar gyfer [[Canolfan Masnach y Byd]] yn Efrog Newydd pan agorodd hynny ym 1974; dyma oedd un o'r gweithiau celf mwyaf gwerthfawr i gael ei ddinistrio yn [[ymosodiadau 11 Medi 2001]].<ref>{{dyf gwe|url=http://www.ifar.org/nineeleven/911_public2.htm|url=http://www.ifar.org/nineeleven/911_public2.htm|cyfenw=Wenegrat|enwcyntaf=Saul|teitl=Public Art at the World Trade Center|cyhoeddwr=International Foundation for Art Research|dyddiad=28 Chwefror 2002|dyddiadcyrchiad=10 Mai 2014|iaith=en}}</ref>
 
Sefydlwyd amgueddfa o'i waith, y Fundació Joan Miró, yn Barcelona ym 1975, mewn adeilad a'i gynlluniwyd gan ei ffrind Josep Lluís Sert a gyda chasgliad o beintiadau, cerfluniau a phrintiau a'u rhoddwyd gan yr artist ei hun. Bu farw Miró yn [[Palma de Mallorca]] ym 1983, ac ym 1992 sefydlwyd Fundació Pilar i Joan Miró yn ei hen stiwdio yno.<ref name="Grove"/>
 
Mae pedwar lithograff gan Miró, yn dyddio o'r 1970au, yng nghasgliad [[Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]]. Fe'u rhoddwyd i'r amgueddfa gan y casglwyr Eric a Jean Cass yn 2013.<ref>{{dyf gwe|url=http://www.culture24.org.uk/art/art433180|teitl=Joan Miró and John Hoyland works join National Museum Cardiff in dozen-artwork gift|gwaith=Culture24|dyddiad=26 Ebrill 2013|dyddiadcyrchiad=10 Mai 2014|iaith=en}}</ref>
Llinell 42:
[[Categori:Genedigaethau 1893]]
[[Categori:Marwolaethau 1983]]
 
{{Authority control}}