Norman Berdichevsky: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 4:
 
==Academia==
Derbyniodd ei [[Doethuriaeth|ddoethuriaeth]] mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Wisconsin-Madison ym 1974 a bu'n gyn-ddarlithydd mewn Astudiaethau Iddewig ym Mhrifysgol Canolbarth Florida. Dros y blynyddoedd darlithodd mewn prifysgolion yn [[Unol Daleithiau America]], [[Denmarc]], [[Israel]] a [[Prydain|Phrydain]].
 
==Athroniaeth Asgell Dde==
Llinell 15:
 
==Hebraeg==
Mae wedi ysgrifennu ar y gwahaniaeth sy'n datblygu rhwng Iddewon yn Israel ac Iddewon yn y Diaspora, gweler ei erthygl '[http://Zohar%20Argov%20and%20the%20Hebrew%20Language%20Gap%20http://www.newenglishreview.org/custpage.cfm/frm/138417/sec_id/138417 Zohar Argov and the Hebrew Language Gap]' ar wefan y New English Review. Yn ei lyfr '[http://www.mcfarlandbooks.com/book-2.php?id=978-0-7864-9492-7 Modern Hebrew: The Past and Future of a Revitalized Language]' (McFarland, 2014) mae'n dadlau dros gynyddu addysg yn yr iaith Hebraeg yn y Diaspora er mwyn cau'r bwlch yno. Noda fod diffyg rhuglder, neu hyd yn oed ymwybyddiaeth Iddewon America o ddiwylliant byw Hebraeg Israel yn arwain ac yn gwanhau'r ddealltwriaeth o'r hyn sy'n bryder i'r Iddewon yn Israel ac yn golygu na ydynt chwaith yn gallu rhannu llwyddiant diwylliannol, economaidd a chymdeithasol y wlad.
 
Mae'n dadlau yn y llyfr hefyd dros greu 'Gweriniaeth Hebraeg' yn Israel, sef gweriniaeth ddinesig sydd wedi ei seilio ar diriogaeth ac iaith ac nid yn unig ar hunaniaeth ethnig a chrefyddol Iddewig. Mae'n dadlau ar dudalen 164 o'r llyfr dros 'gadw'r faner ond newid yr anthem'. Byddai hyn, meddai, yn ffordd o gymathu a chydnabod yr 20% o boblogaeth Israel sy'n Arabiaid.
 
Yn hyn o beth mae'n dilyn peth o athroniaeth [http://en.wikipedia.org/wiki/Canaanites_(movement) Canaaneiaid] yr ugeinfed ganrif megis Uri Avnery a ddadleuai dros greu gweriniaeth gymanwladol oedd wedi ei seilio ar realiti gymuned Hebraeg ei hiaith nid ar hunaniaeth Grefyddol Iddewiaeth. Yn ôl yr athroniaeth hon byddai'r weriniaeth gymanwladol yn agored i Semitiaid eraill nad oedd yn wreiddiol yn Arabiaid.
 
==Denmarc==
Mae Berdichevsky yn rhugl yn y Daneg ac wedi cyhoeddi llyfr, '[http://An%20Introduction%20to%20Danish%20Culture|http://www.amazon.com/Introduction-Danish-Culture-Norman-Berdichevsky/dp/0786464011/ref=sr_1_1 An Introduction to Danish Culture]' (2011). Mae hefyd wedi ysgrifennu ar anghydfod y ffin rhwng Denmarc a'r Almaen ac am agweddau ar Iddewiaeth, Mwslemiaeth a hunaniaeth crefydd ac iaith yn y wlad.
 
 
==Llyfryddiaeth Ddethol==
Llinell 32 ⟶ 31:
 
[[Categori:Ysgolheigion Americanaidd]]
 
{{Authority control}}