Norman Berdichevsky

audur Iddewig o'r UDA. Wedi ysgrifennu ar Israel, Denmarc, gwleidyddiaeth

Awdur, darlithydd a chyfieithydd Iddewig o'r Unol Daleithiau yw Norman Berdichevsky sy'n arbenigo mewn pynciau sy'n ymwneud ag iaith a hunaniaeth gwrth Gomiwnyddol. Mae'n erbyn Mwslemiaeth radical a'r hyn a welai fel agwedd llwfr nifer o ddeallusion yn y Gorllewin tuag at fygythiad Mwslemiaeth uniongred. Ysgrifenna o gyfeiriad asgell dde seciwlar. Mae'n frodor o Efrog Newydd ond bellach yn byw yn Orlando, Florida.

Norman Berdichevsky
Ganwyd1943 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, ysgolhaig Iddewig, daearyddwr, cyfieithydd Edit this on Wikidata

Mae'n rhugl yn y Saesneg, Sbaeneg, Hebraeg a Daneg ac wedi darlithio, cyhoeddi a chyfieithu yn yr ieithoedd hynny. Fel Iddew mae ganddo ddiddordeb arbennig yn Israel ac yn nefnydd a dyfodol yr iaith Hebraeg.

Academia

golygu

Derbyniodd ei ddoethuriaeth mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Wisconsin-Madison ym 1974 a bu'n gyn-ddarlithydd mewn Astudiaethau Iddewig ym Mhrifysgol Canolbarth Florida. Dros y blynyddoedd darlithodd mewn prifysgolion yn Unol Daleithiau America, Denmarc, Israel a Phrydain.

Athroniaeth asgell dde

golygu

Drwy gydol ei yrfa mae Berdichevsky wedi ysgrifennu a siarad o gyfeiriad yr asgell dde. Cyhoeddodd lyfr, 'The Left is Seldom Right' a cheir cyfweliad ag ef am ei ddaliadau mewn sawl man gan gynnwys gyda David Toy ar Youtube[dolen farw] lle mae'n rhoi ei ddadansoddiad o fethiannau nifer o agweddau deallusion y Chwith.

Mae'n un o brif gyfrannwyr i wefan lenyddol a materion cyfoes asgell dde, y 'New English Review' gydag ysgrifenwyr adnabyddus eraill fel Theodore Darlymple.

Israel

golygu

Mae Berdichevsky yn lladmerydd cyson dros wladwriaeth Israel gan ysgrifennu dros hawl y wlad i ymosod ac amddiffyn ei hun yn erbyn Arabiaid ac yn erbyn Mwslemiaeth eithafol. Serch hynny, mae'n amheus o agwedd y gymuned Haredim Iddewig grefyddol uniongred nad sy'n coleddu'r iaith Hebraeg nac yn gwasanaethu ym myddin y wlad.

Hebraeg

golygu

Mae wedi ysgrifennu ar y gwahaniaeth sy'n datblygu rhwng Iddewon yn Israel ac Iddewon yn y Diaspora, gweler ei erthygl 'Zohar Argov and the Hebrew Language Gap' ar wefan y New English Review. Yn ei lyfr 'Modern Hebrew: The Past and Future of a Revitalized Language[dolen farw]' (McFarland, 2014) mae'n dadlau dros gynyddu addysg yn yr iaith Hebraeg yn y Diaspora er mwyn cau'r bwlch yno. Noda fod diffyg rhuglder, neu hyd yn oed ymwybyddiaeth Iddewon America o ddiwylliant byw Hebraeg Israel yn arwain ac yn gwanhau'r ddealltwriaeth o'r hyn sy'n bryder i'r Iddewon yn Israel ac yn golygu na ydynt chwaith yn gallu rhannu llwyddiant diwylliannol, economaidd a chymdeithasol y wlad.

Mae'n dadlau yn y llyfr hefyd dros greu 'Gweriniaeth Hebraeg' yn Israel, sef gweriniaeth ddinesig sydd wedi ei seilio ar diriogaeth ac iaith ac nid yn unig ar hunaniaeth ethnig a chrefyddol Iddewig. Mae'n dadlau ar dudalen 164 o'r llyfr dros 'gadw'r faner ond newid yr anthem'. Byddai hyn, meddai, yn ffordd o gymathu a chydnabod yr 20% o boblogaeth Israel sy'n Arabiaid.

Yn hyn o beth mae'n dilyn peth o athroniaeth Canaaneiaid yr 20g megis Uri Avnery a ddadleuai dros greu gweriniaeth gymanwladol oedd wedi ei seilio ar realiti gymuned Hebraeg ei hiaith nid ar hunaniaeth Grefyddol Iddewiaeth. Yn ôl yr athroniaeth hon byddai'r weriniaeth gymanwladol yn agored i Semitiaid eraill nad oedd yn wreiddiol yn Arabiaid.

Denmarc

golygu

Mae Berdichevsky yn rhugl yn y Daneg ac wedi cyhoeddi llyfr, 'An Introduction to Danish Culture' (2011). Mae hefyd wedi ysgrifennu ar anghydfod y ffin rhwng Denmarc a'r Almaen ac am agweddau ar Iddewiaeth, Mwslemiaeth a hunaniaeth crefydd ac iaith yn y wlad.

Llyfryddiaeth ddethol

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolenni allanol

golygu