Iseldireg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 28:
Mae geirfa'r iaith Iseldireg yn un o'r rhai cyfoethocaf yn y byd gydag o leauf 186,000 gair.
 
Fel [[Saesneg]], mae Iseldireg yn cynnwys geiriau o'r [[Groeg (iaith)|Roeg]] a [[Lladin]]. Daeth y rhan fwyaf o fenthynciadau o'r Ffrangeg drwy'r Iseldiroedd. Digwyddodd hyn oherwydd y meddylfryd ddaeth gyda'r iaith Ffrangeg mai iaith y dosbarthiadau cymdeithasol cyfoethog yw hi, ac felly cafodd nifer o eiriau [[Ffrangeg]] eu mabwysiadau gan ddosbarthiadau uwch yr [[Iseldiroedd]]. Ni ddigwyddodd hyn yng [[Gwlad Belg|Ngwlad Belg]] oherwydd roedd dinasyddion y dosbarthiadau uwch yn siarad Ffrangeg ac felly doedd dim angen addasu [[iaith]] eu hunain. Dylanwadodd termau [[Ffrangeg]] yn fawr ar dafodau Iseldireg yn [[Fflandrys]], ond mae siaradwyr Belgaidd yn dueddol o beidio defnyddio benthyciadau Ffrangeg wrth siarad Iseldireg safonol. Serch hynny mae yna nifer o eiriau wedi eu benthyg o'r Ffrangeg yn eithaf diweddar er nad oes ganddynt yr un gwerth. Er enghraifft, mae'r gair ''"blesseren"'' (o'r Ffrangeg ''blesser'', sydd yn golygu 'i niweidio') yn cyfeirio at anafiadau chwaraeon yn unig, tra defnyddir y berfau Iseldireg safonol ''"kwetsen"'' a ''"verwonden"'' yng nghyd-destunau eraill o hyd.
 
Ar y strydoedd yn enwedig mae yna gynnydd ym menthyciadau o'r [[Saesneg]] er eu bod yn cael eu hynganu'n wahanol. Cai'r mewnlifiad o eiriau Saesneg i'r iaith ei gryfhau gan arglwyddiaeth yr iaith Saesneg yn y cyfryngau a'r we. Yn anhebyg i ieithoedd eraill mae'r iaith Iseldireg yn mabwysiadu'r geiriau hyn heb lawer o brotest. Yn wir nid yw ymdrechion i greu fersiynau Iseldireg o'r geiriau newydd wedi bod yn llwyddiannus iawn.