Dynes ar ei heistedd Çatalhöyük: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Y cerflun yn Amgueddfa Gwareiddiadau Anatolia, Ankara Cerflun cynhanesyddol o fenyw yn e...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Ankara_Muzeum_B19-36.jpg|250px|bawd|Y cerflun yn Amgueddfa Gwareiddiadau Anatolia, Ankara]]
 
[[Cerflun]] [[Cynhanes|cynhanesyddol]] o fenyw yn eistedd ar gadair neu orsedd yw '''Dynes ar ei heistedd Çatalhöyük''' (hefyd '''Çatal Höyük''' neu '''Çatalhüyük'''). Mae'n gerflun o [[clai|glai]] wedi'i thaniodanio o [[Benyw|fenyw]] noeth sy'n eistedd ar [[Cadair|gadair]] neu [[Gorsedd|orsedd]] o ryw fath rhwng dwy fraich sy'n terfynu mewn pennau [[llew|llewod]]. Tybir yn gyffredinol ei bod yn cynrychioli [[Mam-dduwies]] dew a ffrwythlon sydd ar ganol [[Geni|esgor ar blentyn]]. Darganfuwyd y cerflun ar safle dinas hynafol [[Çatalhöyük]] yn [[Twrci|Nhwrci]].
 
Dyma'r mwyaf adnabyddus o sawl cerflun cyffelyb o'r un safle, a gysylltir gan archaeolegwyr â cherfluniau eraill o'r cyfnod [[Neolithig]] ([[Oes Newydd y Cerrig]]) sy'n cynrychioli mam-dduwiesau tew, er enghraifft '[[Gwener Willendorf]]'. Mae'r perthynas iconograffig rhwng y cerflun Anatolaidd hwn â'r cerfluniau diweddarach o'r Fam-dduwies Anatolaidd [[Cybele]], sy'n dyddio o'r Fileniwm 1af CC, yn drawiadol.