Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Blogdroed y dudalen Bwrdd Pêl-droed Rhyngwladol i Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol: Teitl swyddogol |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Y '''Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol''' ([[Saesneg]]: ''International Football Association Board (IFAB)'') ydi'r corff sydd yn gyfrifol am bennu a chadw rheolau [[pêl-droed]]<ref name="statutes">{{cite web |url=http://www.fifa.com/mm/document/affederation/ifab/02/26/11/50/14.05.08_ifab_statutes_final_opt_neutral.pdf |title=Statutes of the International Football Association Board |published=FIFA |type=PDF}}</ref>. Fe'i ffurfiwyd ym [[1886]] er mwyn cysoni'r rheolau ar gyfer cystadlaethau rhyngwladol. Ers ffurfio [[FIFA]] ym [[1904]] mae'r corff llywodraethol wedi cydnabod yr IFAB fel yr unig awdurdod ar reolau'r gamp<ref name="statutes" />.
==Hanes==
Er bod y rhan helaeth o reolau pêl-droed wedi eu cysoni erbyn y 1870au, roedd gwahaniaethau bychain yn rheolau'r pedair cymdeithas [[Prydeinig|Brydeinig]]. Roedd hyn yn peri problem ar gyfer gemau rhyngwladol gyda'r tîm cartref yn gosod y rheolau<ref>{{cite web |url=http://www.fifa.com/classicfootball/history/the-laws/from-1863-to-present.html |title=The Laws: From 1863 to the Present Day |published=FIFA.com}}</ref>. O dan arweiniad [[Cymdeithas Bêl-droed Lloegr]] (FA), daeth dau gynrychiolydd o'r pedair cymdeithas - Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, [[Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban]], [[Cymdeithas Bêl-droed Cymru]] a [[Cymdeithas Bêl-droed Gogledd Iwerddon|Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon]] at eu gilydd ar [[2 Mehefin]], [[1886]] yn swyddfeydd yr FA yn Holborn Viaduct, [[Llundain]] er mwyn cysoni'r rheolau a ffurfio'r IFAB<ref name="hanes">{{cite web |url=http://www.fifa.com/aboutfifa/organisation/ifab/history.html |title=The IFAB, the eternal guardian of laws |published=FIFA.com}}</ref>.
Ffurfiwyd Fédération Internationale de Football Association (FIFA) ym [[1904]] gyda'r corff llywodraethol yn cydnabod mai'r IFAB ydi'r unig awdurdod ar reolau'r gamp<ref name="statutes" />. Yn dilyn poblogrwydd y gêm yn rhyngwladol, cafodd cynrychiolwyr FIFA eu derbyn yn aelodau o'r IFAB ym 1913. Yn wreiddiol roedd gan FIFA dwy bleidlais gyda'r pedair cymdeithas Brydeinig hefyd â dwy bleidlais yr un, ond ym 1958 gyda pwysigrwydd a phoblogrwydd pêl-droed rhyngwladol yn tyfu, daethpwyd i gonsensws y dylai FIFA cael mwy o ddylanwad ar reolau'r gêm. O'r herwydd newidiwyd y system fel bod gan y pedair gymdeithas Brydeinig un pleidlais yr un gyda FIFA yn cael pedair pleidlais. Roedd angen chwe pleidlais er mwyn sicrhau unrhyw newid<ref>{{cite web |url=http://www.fifa.com/mm/document/affederation/ifab/01/39/24/77/ifab_book_web.pdf |title=IFAB: 125th Anniversary Brochure |type=PDF |published=FIFA}}</ref>. Dyma'r system sydd yn bodoli hyd heddiw.
{{cyfeiriadau}}
▲== Cyfeiriadau ==
|