Cynnes i ti a mwynha ychwanegu at yr erthyglau, beth bynnag dy ddiddordeb. Os wyt ti iso cyngor, mae 'na ddigon ohonom yma! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:16, 14 Medi 2013 (UTC)Ateb

diolch! Dwi'n gobeithio na fyddai'n ormod o boen wrth ofyn cwestiynau di-ri! Blogdroed (sgwrs) 09:23, 14 Medi 2013 (UTC)Ateb

Cyfeiriadau golygu

Dilch am yr holl waith diweddar - mae'n dda cael par arall o goesau ifanc i ddod ymlaen oddi ar y fainc! Dan ni wedi bod reit llac yma yn y gorffennol, ond dan ni'n ceisio rhoi o leiaf dau(dwy?) ffynhonell wrth bob erthygl. Yn dy erthyglau newydd am Gemau'r Gymanwlad ti'n rhoi dolenni at wefan y Gemau, sy'n cadarnhau'r canlyniadau mi dybiaf. Yn yr erthygl am un 1966 ac ymddangosiad cyntaf HWFN, byddai ffynhonell i rhywbeth mor ddifyr yn ddefnyddiol. Er nad ydyw i wedi ei ddarllen, dwi'n dyfalu mai o lyfr Sion Jobbins y daeth y ffaith? Os felly, mae eisiau manylion y llyfr o fewn y tags canlynol <ref></ref>, a gosod hynny ar ddiwedd y frawddeg dan sylw (wedi'r atalnod llawn). Yn ogystal, os nad ydynt yno'n barod, mae angen cynnwys y canlynol: '==Cyfeiriadau=={{cyfeiriadau}}' hefyd ar waelod yr erthygl, fel eu bod yn ymddangos yn gywir.Sori am fod yn bedantig.--Rhyswynne (sgwrs) 22:20, 16 Medi 2013 (UTC)Ateb

Diolch Rhys, fe ddaeth y ffaith o fy ngwaith ymchwil ar gyfer safle Gemau Gymanwlad y BBC slawer dydd yn ôl - dwi wedi ceisio dod o hyd i ffynhonell (arall) ar y we ond heb lwyddo eto - dwi heb ddarlen llyfr Sion Jobbins, ond fe na'i ymchwilio! Mi na'i barhau i chwilio ar y we hefyd! --Blogdroed (sgwrs) 22:40, 16 Medi 2013 (UTC)Ateb

Gwybodlenni Cymraeg golygu

Dw i wedi ateb dy ymholiad yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:58, 17 Medi 2013 (UTC)Ateb

Diolch - wedi ateb yn ôl! --Blogdroed (sgwrs) 20:01, 17 Medi 2013 (UTC)Ateb
   Cwbwlhawyd - Llywelyn2000 (sgwrs) 21:05, 17 Medi 2013 (UTC)Ateb
arbennig! --Blogdroed (sgwrs) 21:29, 17 Medi 2013 (UTC)Ateb
cwestiwn olaf ... onest! ... sut mae newid maint y ffont mewn Gwybodlen?--Blogdroed (sgwrs) 21:45, 17 Medi 2013 (UTC)Ateb
  Cwblhawyd
--Blogdroed (sgwrs) 22:44, 17 Medi 2013 (UTC)Ateb

Gweld dy fod wedi bod yn arbrofi'n creu Nodyn newydd: Nodyn:Blwchrygbi‎. Ti ar y ffordd iawn - cofia ofyn os ti isio cymorth. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:40, 8 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Diolch, siwr o wneud - meddwl bo fi ar y trywydd cywir efo hwn - am drio efo fersiwn pêl-droed nes ymlaen! --Blogdroed (sgwrs) 19:34, 8 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Gwyrdd a melyn a coch a du... golygu

Gyfaill! Mi adewais neges i ti yn fama, gan ddangos fy lliwiau gwleidyddol, tanbaid! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:35, 19 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Pêl-droed yng Nghymru XXXX-XX golygu

Gweld bod ti wedi dechrau ar dymhorau 12/13 a 13/14. Wyt ti'n bwriadu cynnwys mwy yn yr erthyglau maes o law? Fydden i ddim yn cynnwys gormod arno neu mae'n mynd i fod yn llafurus i'w lenwi (yn enwedig wrth fymnd yn ôl mewn amser), ond falle nodi; enillwyr Cwpan Cymru, crynodeb o lwyddiannau(os o gwbl!) clybiau Cymru yn Ewrop a falle mond cyfeirio at y clybiau yn Lloegr os digwyddod rhywbeth arbennig fel dychafiad/disgyn o adran, ennill neu fynd yn bell mewn cystadleuaeth cwpan. Wedyn beth am wobrau chwaraewyr (BBC a PFA) a'r tîm cenedlaethol? Falle gwell peidio cynnwys y tîm cenedlaethol gan bod eu tymor/ymchyrch gemau ragbrofol nhw yn rhedeg dros ddwy dymor domestig fel arfer. Dwi'n hapus i'th gynorthwyo gyd'r uchod, mond meddwl byddia'n handi trafod y cynwnys o flaen llaw.

Gol. O edrych ar Wikipedia en am esiamplau, sylwaf bod y strwythur yno ychydig yn wahanol (ac yn rhy fanwl i ni os rhwybeth!)--Rhyswynne (sgwrs) 09:52, 23 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Hi Rhys! Ydw, dwi'n bwriadu cynnwys rhywbeth tebyg i'r hyn ti di nodi uchod, ond roeddwn am roi gemau (a gwobrau seremoni flynyddol) y tîm cenedlaethol hefyd dros pob tymor - meddwl bwrw ati fesyl tipyn! Wrthi'n gweithio allan a chreu y Nodyn sy'n creu'r tablau ydw i ar y funud! Unwaith bo fi wedi creu un llynedd, bydd rhyw fath o esiampl i'w ddilyn ar gyfer y gweddill. Gobeithio fydd rhywbeth wedi'i greu bore 'ma --Blogdroed (sgwrs) 10:00, 23 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Edrych yn dda hyd yma (y tabl). Eto yn gysylltiedig â hyn, dw i wedi dechrau cyfieithu 'Pyramid pêl-droed Cymru' ar is-dudalen fy mhroffil. Mae o ar ei ganol fel y gweli di. Gobeithio bod enwau (Cymraeg) y gwahanol gyngrheiriau'n gywir hyd yma.--Rhyswynne (sgwrs) 12:47, 23 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Aha! Ar dudalen proffil mae rhywun i fod i arbrofi ia? !! --Blogdroed (sgwrs) 13:08, 23 Hydref 2013 (UTC)Ateb
Ia, neu yn y Pwll Tywod, ond mae beth ti wedi bod yn ei wneud gyda'r erthygl dan sylw a rhai Gemau'r Gymanwlad, sef ychwanegu tipyn ar y tro, yn berffiath iawn - dyna yw hanfod wici! Dw i wedi dewis cyfieithu'r pyramid ar is-dudalen fy mhroffil gan na fyddai'n dderbyniol creu erthygl gyda'r cyfieithu ar ei hanner.--Rhyswynne (sgwrs) 11:43, 28 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Syniad am olygathon golygu

Yn gysylltiedig â'r uchod a gan bod Sgorio yn dathlu pen-blwydd 25 oed eleni, be ti'n feddwl o'r syniad ar gyfer un neu fwy o ddigwyddiadau golygu'r Wicipedia (Cymraeg a Saesneg o bosib) yn seiliedig a'r Bêl-droed. Ti'n meddwl byddai gan glwb, y Gymdeithas Bêl-droed, grŵp cefnogwyr neu falle cwmni Rondo ddiddordeb noddi/cynnal digwyddiad o'r fath? Oes amgueddfa neu arddangosfa bêl-droed parhaol neu dros dro gyda ni yng Nghymru bellach, neu unigolion sy'n frwd dros hanes y gamp y gallwn droi ato am syniadau? --Rhyswynne (sgwrs) 09:52, 23 Hydref 2013 (UTC)Ateb

Bae Trearddur / Trarddur? golygu

Well spotted! Pa un yw'r sillafiad lleol? Llywelyn2000 (sgwrs) 20:13, 20 Mai 2014 (UTC)Ateb

Trearddur fyswn i'n ddefnyddio'n lleol Blogdroed (sgwrs) 21:32, 20 Mai 2014 (UTC)Ateb
Diolch gyfaill; dw i wedi uno'r ddau bellach. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:41, 21 Mai 2014 (UTC)Ateb
FFanciw Mawr! Blogdroed (sgwrs) 18:43, 21 Mai 2014 (UTC)Ateb

Ashley Williams golygu

Wedi ei newid. Er gwybodaeth (a dwi'n meddwl bod pawb yn gallu gwneud hyn, nid mond gweinyddwyr), ar ben pob erthygl, i'r chwith i'r blwch chwilio, mae saeth bach gyda'r dewis o 'Symud' tudalen. Mae hyn yn creu enw newydd i'r erthygl ac yn algyfeirio unrhyw ddoleni at yr hen enw.

 

Gwaith gwych ar yr holl erthyglau pêl-droed eraill hefyd gyda llaw.--Rhyswynne (sgwrs) 21:04, 20 Mai 2014 (UTC)Ateb

Diolch yn dalpau! Blogdroed (sgwrs) 21:32, 20 Mai 2014 (UTC)Ateb

FA Cup golygu

Beth i alw hwn yn Gymraeg? Penderfynais i (yn unfrydol!) i greu ac enwi'r erthygl yn Cwpan Lloegr yn ddiweddar gan bod cymaint o ddoleni coch yn cyfeirio ato a gyda chymaint o ffurfiau amrywiol (FA Cup, Cwpan yr FA ayyb). Ers hynny dwi'n ailgyfeirio popeth arall yno. Hapus i drafod os ti'n teimlo bod enw mwy addas/cywir.--Rhyswynne (sgwrs) 21:04, 22 Mai 2014 (UTC)Ateb

Cwpan FA Lloegr fyddwn i'n ddefnyddio - dyna mae'r BBC ac S4C yn ddefnyddio. England's Cup fydde Cwpan Lloegr Blogdroed (sgwrs) 21:10, 22 Mai 2014 (UTC)Ateb
er, wedi deud hynny, di Cwpan Cymru ddim yn gwneud synnwyr yn hynny o beth nacdi!!! Blogdroed (sgwrs) 21:11, 22 Mai 2014 (UTC)Ateb

Manylion coll gyda File:WorldCup1958logo.jpg golygu

Annwyl uwchlwythwr: Mae manylion ar goll gyda'r ffeil a uwchlwythoch (File:WorldCup1958logo.jpg). Mae hi naill ai'n colli disgrifiad a/neu fanylion eraill, a/neu drwydded ar ei thudalen disgrifio. Os oes modd, ychwanegwch y wybodaeth hon. Bydd hwn yn cynorthwyo i olygyddion eraill wneud y defnydd gorau o'r ddelwedd, a bydd yn fwy addysgiadol i ddarllenwyr.

Os na roddir y wybodaeth, dilëir y ffeil ymhen tri diwrnod i ddyddiad gosod y tag hwn, sy'n sefyllfa annymunol, a sefyllfa y gellir ei hosgoi'n hawdd.

Os oes cwestiynu gennych, ymwelwch â'r dudalen hon. Diolch. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 22:27, 30 Mai 2014 (UTC)Ateb


Daw'r delwedd o en.wikipedia - rwyf wedi defnyddio yr un manylion â sydd ar yr ochr Saesneg - dwi ddim yn siwr beth yn fwy sydd ei angen ... Blogdroed (sgwrs) 15:28, 1 Mehefin 2014 (UTC)Ateb
Mae'n edrych yn OK i fi, ond dwi ddim yn arbenigwr ar hyn. Hefyd wedi adfer delwedd Gemau'r Gymanwlad 2014 ac wedi newid y cod - doedd dim disgrifiad hawlfraint arno o gwbl o beth welais yn hane sy ffeil, ond dylid bod wedi rhoi ychydig o rybudd ta beth. Ceisio sicrhau bod ni yma'n cydymffurfio a'r rheolau hawlfraint mae xxglennxx er tegwch, mond bod angen esbonio'n well.--Rhyswynne (sgwrs) 21:24, 2 Mehefin 2014 (UTC)Ateb
Diolch Rhys! Blogdroed (sgwrs) 21:36, 2 Mehefin 2014 (UTC)Ateb

Broliant gan Wicimania golygu

Cafwyd sylw yn un o'r grwpiau yn Wicimania heddiw cystal yw erthyglau'r wici cy o ran yr adran chwaraeon! Cafwyd trafodaeth yn dilyn hynny am bwysigrwydd erthyglau fel hyn i bobl ifanc. Mae llawer o'r diolch i ti! Fory: grwpiau ieithoedd lleiafrifol yn trafod cymorth a mwy o gydweithio. Gwych iawn. Llywelyn2000 (sgwrs) 22:41, 8 Awst 2014 (UTC)Ateb

Wow! diolch! Dwi'n falch o fod yn rhan o rhywbeth sy'n ceisio denu'r to ifanc i ddefnyddio'r we yn Gymraeg! Blogdroed (sgwrs) 23:21, 8 Awst 2014 (UTC)Ateb

Nodyn:Infobox International Football Competition golygu

Helo. Ti wedi newid y Nodyn pel-droed yma, fel mai'r Pencampwyr ydy Brisil ac nid Ffrainc. Dydy'r baner / enw gwledydd ddim yn gweithio rwan. Dw i ddim yn deall pam. ond efallai mai gadael o fel roedd o ydy'r gorau? '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:42, 11 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Dydw i ddim yn giamstar efo'r Nodiadau )templates) yma, ond efallai mai dyma lle mae pthe'n mynd ar chwal? [1]. '''Defnyddiwr:John Jones''' (sgwrs) 15:54, 11 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Dim byd o'i le efo'r pencampwyr; manion yn unig. Mae'n iawn rwan. Llywelyn2000 (sgwrs) 21:43, 11 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Ymddiheuriadau - dim ond nawr dwi'n gweld y neges - diolch Llywelyn2000 Blogdroed (sgwrs) 10:46, 12 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Ar y brig! golygu

Haia. Ydy blwch llywio bychan fel hwn yn help neu'n rhwystr? Gweler: Pêl-droed yng Nghymru 2014-15 - brig, dde. Gyda / heb y saethau? I'w gopio / addasu os wyt ti'n meddwl ei fod o ddefnydd. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:16, 25 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Roeddwn i am greu rhywbeth tebyg i'r hyn sydd gan en.wikipedia fan hyn: https://en.wikipedia.org/wiki/2013%E2%80%9314_in_English_football felly alla'i addasu hwn i wneud hynny! Diolch Blogdroed (sgwrs) 10:21, 25 Ionawr 2015 (UTC)Ateb
Llawer gwell! Llywelyn2000 (sgwrs) 11:12, 25 Ionawr 2015 (UTC)Ateb

Golygathon Rygbi golygu

Helo!

Er gwybodaeth, mis Medi yma bydd Golygathon yn cael i gynnal yn stadiwm y mileniwm i ddathlu Rygbi yn Gymru a Chwpan Rygbi'r Byd. Os hoffwch chi wybod mwy rhowch wybod. Diolch.Jason.nlw (sgwrs) 09:46, 2 Mawrth 2015 (UTC)Ateb

Diolch @Jason.nlw: - er gwybodaeth, rwyf wedi cychwyn 'template' ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn fy mlwch tywod - bydd yn fyw cyn bo hir Blogdroed (sgwrs) 12:59, 2 Mawrth 2015 (UTC)Ateb
Grêt @Blogdroed: - Gobeithio bydd modd i chi dod ar eich holl arbenigedd i'r digwyddiad ym mis Medi!
does gen i fawr o arbenigedd rygbi mae gen i ofn - dwi'n bell o fod yn ffan rygbi! Blogdroed (sgwrs) 11:58, 5 Mawrth 2015 (UTC)Ateb

Y Teclyn newydd golygu

Dwi'n cytuno efo ti gant y cant fod y "GolygyddGweledol" yn boen, a deud y lleia. Ond cofia does dim rhaid i ti ei ddefnyddio o gwbl. Sbia yn dy ddewisiadau golygu lle mae'r blwch VisualEditor wedi'i dicio - dad-dicia fo i gael gwared o'r peth gwirion. Defnyddiais o unwaith ac roedd hynny'n fwy na ddigon! Hir oes i olygu'n uniongyrchol ar y dudalen gyda'r hen Destun Wici annwyl, meddaf i! Hwyl, Anatiomaros (sgwrs) 00:54, 19 Ebrill 2015 (UTC)Ateb

Aha! Gwych! Diolch i ti Anatiomaros Blogdroed (sgwrs) 08:51, 22 Ebrill 2015 (UTC)Ateb

James Collins yr Ail golygu

 

Och fi! Roedd James Collins (pêl-droediwr) yn bodoli'n barod ers chydig wythnosau. Does dim gwaeth - a dw i wedi gwneud hyn droeon! Bellach, dw i'n chwilio'n eitha trylwyr cyn creu erthygl newydd, ond weithiau'n dal i fethu. Mae'r awgrymiadau otomatig sy'n cael eu taflu weithiau'n ddigon, fel y gwyddost, dw i'n siwr - mond cadw llygad craff am deitlau eraill (gweler y llun). Be i wneud rwan? Mae dy erthygl di'n well erthygl (!) felly, awgrymaf ei hailenwi'n 'James Collins (pêl-droediwr)', ond yn gyntaf byddangen troi 'James Collins' yn dudalen wahaniaethu - rhag ofn y cawn erthyglau am ryw James Collins eraill. Be 'di dy farn? Llywelyn2000 (sgwrs) 08:52, 21 Mehefin 2015 (UTC)Ateb

Daria! Nes i ddim chwilio cyn cychwyn yr erthygl ... wps! Mae gen i restr ar fy nhudalen bersonol a dwi heb checio bod y rhai mewn coch heb eu creu dan enw arall! Ond, ia, dwi'n cytuno efo dy awgrymiad uchod. Diolch Blogdroed (sgwrs) 08:55, 21 Mehefin 2015 (UTC)Ateb

Honka'n gyrru fi'n Honko golygu

Tra'n sbio ar erthygl Dinas Bangor, tarodd canlyniad Ewrop yn erbyn FC Honka (er ail dro iddynt gwrdd) braidd yn od gan ei fod yn awgrymu bod nhw wedi cael gem gyfartal 1-1 yn y cymal cyntaf ac yna colli 2-1, ond eto wedi chwarae yn y rownd nesaf. O edrych ar yr erthygl Saesneg, mae'n dweud i Fangor ennill 2-1 adre a cholli 1-1 oddi cartref. Fel arfer baswn i'n newid hyn fy hun, gan bod yr erthygl Saesneg yn defnyddio trefn Cartref/Oddi Cartref, ar erthygl Gymraeg yn defnyddio Cymal Cyntaf/Ail GYmal, do'n i ddim yn siwr pa un i'w gywiro. --Rhyswynne (sgwrs) 21:48, 6 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb

Doh!! Diolch - dyna beryg copio'r un Saesneg ynde!! Diolch @Rhyswynne: Blogdroed (sgwrs) 22:01, 6 Gorffennaf 2015 (UTC)Ateb

Deffro'r Ddraig golygu

Helo 'na Blogdroed. A hoffech chi gymryd rhan yng nghystadeluaeth Deffro'r Ddraig, ar gyfer creu a gwella erthyglau am Gymru, ym mis Ebrill? Mae cyfle i ennill tocynnau rhodd gwerth hyd at £200 oddi wrth Amazon. Mae llwyth o erthyglau posib i'w creu o'r newydd ar y rhestr o erthyglau hanfodol. Gallwch gofrestru fan hyn. Ham II (sgwrs) 15:49, 31 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

Diolch am gofrestru! Bydd adran "chwaraeon" o'r rhestr o erthyglau hanfodol, fydd yn dangos lle mae ein llefydd gwag, maes o law! Ham II (sgwrs) 16:27, 31 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

Croeso! Mae'r gystadleuaeth yn dechrau yn 4 a hanner amser awr! Pob lwc!Dr. Blofeld (sgwrs) 18:40, 31 Mawrth 2016 (UTC)Ateb

Keep the content coming, don't give up! You were doing great! The dragon had one eye open there for a bit!Dr. Blofeld (sgwrs) 22:22, 12 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Gwybodlen: Infobox sportsperson golygu

Mae Infobox sportsperson yn gweithio rwan. Llywelyn2000 (sgwrs) 10:45, 10 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Gwych. Diolch!
@Llywelyn2000: Wedi ceisio ... ac wedi methu ... cael fy mhen o gwmpas y medalau! Mi ymdrechaf eto yn o fuan! Blogdroed (sgwrs) 09:03, 11 Ebrill 2016 (UTC)Ateb

Gwybodlen golygu

Fasa ti ddim yn cymryd golwg o fy nghyfieithiad o'r gwybodlenni ar y dudalen ar GPD Aberystwyth os gweli di'n dda? Can diolch! Dw i wedi diweddaru'r Nodion (ac isnodion a oedd ar goll). Llywelyn2000 (sgwrs) 08:15, 22 Mai 2017 (UTC)Ateb

@Llywelyn2000: Mae'n edrych yn grêt i mi.

You are invited! golygu

 
You are invited...
 

The Celtic Knot: Wikipedia Language Conference - Programme now live.

  • Hosts: The University of Edinburgh and Wikimedia UK
  • Supporting: Celtic & Indigenous Languages.
  • Objective: The main objective for Celtic Knot 2017 is the coming together of practitioners in the same room at same time; strengthening the bonds of those working to support language communities into a 'knot' and leading into action. Attendees can expect to learn about and discuss innovative approaches to open education, open knowledge and open data that support and grow language communities.
  • Date: 6 July 2017 - Booking is now open.

Stinglehammer (sgwrs) 22:35, 22 Mai 2017 (UTC)Ateb

Share your experience and feedback as a Wikimedian in this global survey golygu

WMF Surveys, 18:40, 29 Mawrth 2018 (UTC)Ateb

Reminder: Share your feedback in this Wikimedia survey golygu

WMF Surveys, 01:38, 13 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Your feedback matters: Final reminder to take the global Wikimedia survey golygu

WMF Surveys, 00:47, 20 Ebrill 2018 (UTC)Ateb

Cysylltu erthygl newydd gyda'r byd mawr golygu

Er mwyn cysylltu erthygl Gymraeg newydd (ee Gemau Olympaidd yr Haf 1924) gydag erthyglau ieithoedd eraill, fe elli fynd i'r eitiem briodol ar Wicidata a'i ychwanegu yno. Mae na label ar y top i'w ychwanegu a chysylltiad i WP ar waelod y dudalen.

Dw i hefyd wedi gadael neges yn y Caffi i'th sylw. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:02, 1 Chwefror 2022 (UTC)Ateb

Grêt, diolch! Ddim cweit yn deall y dudalen Wikidata eto ond fe ga'i look!! Blogdroed (sgwrs) 11:26, 1 Chwefror 2022 (UTC)Ateb