Bridget Bevan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion, delwedd, categori
Llinell 5:
Ganwyd Bridget Bevan yn y Derllys, [[Llannewydd]], yn [[Sir Gaerfyrddin]], ddiwedd Hydref 1698, yn ferch ieuengaf y philanthropydd [[John Vaughan]] (1663-1722), noddwr ysgolion y [[Cymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol|Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol]] yn y sir, a'i wraig, Elizabeth Thomas (m. 1721). Ar 30 Rhagfyr [[1721]] priododd yr AS lleol a chyfreithiwr [[Arthur Bevan]] (1689-1743) yn eglwys Merthyr. Roedd hi'n etifeddes ystad ei ewythr John Vaughan o'r Derllys.
 
[[Delwedd:Madam Bevan's school, Trefdraeth (Penf) NLW3363843.jpg|200px|bawd|chwith|Ysgol Madam Bevan yn [[Trefdraeth, Sir Benfro|Nhrefdraeth]], [[Sir Benfro]].]]
Yn 1731 dechreuodd noddi gwaith Griffith Jones i sefydlu [[ysgol]] arbrofol ym mhentref [[Llanddowror]], Sir Gaerfyrddin. O'r cnewyllyn hwn tyfodd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig, a symudai o bentref i bentref trwy Gymru yn cyflwyno addysg sylfaenol i blant ac oedolion a'u dysgu i darllen [[Cymraeg]]. Cyfranodd Madam Bevan lawer o'i chyfoeth sylweddol i'r ysgolion arloesol hyn. Ar ôl marwolaeth ei wraig yn 1755, symudodd Griffith Jones i fyw ym mhlasdy Madam Bevan; pan fu farw yntau yn 1761, ysgwyddodd hi faich y brosiect. Rhwng 1736 a 1776, cynhaliwyd 6,321 o ysgolion a rhoddwyd elfennau addysg Gymraeg i 304,475 o blant ac oedolion, sef bron i hanner poblogaeth Cymru.