Bridget Bevan
Cymwynaswraig ac addysgydd o Gymru oedd Bridget Bevan (née Vaughan), a adnabyddir hefyd fel Madam Bevan (bedyddwyd 30 Hydref 1698 – 11 Rhagfyr 1779). Hi oedd prif gynheiliad gwaith addysgol y clerigwr Griffith Jones o Landdowror, sefydlydd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig.
Bridget Bevan | |
---|---|
Ganwyd | 30 Hydref 1698 Llannewydd |
Bu farw | 11 Rhagfyr 1779 Talacharn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | dyngarwr, addysgwr |
Tad | John Vaughan |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Bridget Bevan yn y Derllys, Llannewydd, yn Sir Gaerfyrddin, ddiwedd Hydref 1698, yn ferch ieuengaf y philanthropydd John Vaughan (1663-1722), noddwr ysgolion y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol yn y sir, a'i wraig, Elizabeth Thomas (m. 1721). Ar 30 Rhagfyr 1721 priododd yr AS lleol a chyfreithiwr Arthur Bevan (1689-1743) yn eglwys Merthyr. Roedd hi'n etifeddes ystad ei ewythr John Vaughan o'r Derllys.
Yn 1731 dechreuodd noddi gwaith Griffith Jones i sefydlu ysgol arbrofol ym mhentref Llanddowror, Sir Gaerfyrddin. O'r cnewyllyn hwn tyfodd yr Ysgolion Cylchynol Cymreig, a symudai o bentref i bentref trwy Gymru yn cyflwyno addysg sylfaenol i blant ac oedolion a'u dysgu i darllen Cymraeg. Cyfranodd Madam Bevan lawer o'i chyfoeth sylweddol i'r ysgolion arloesol hyn. Ar ôl marwolaeth ei wraig yn 1755, symudodd Griffith Jones i fyw ym mhlasdy Madam Bevan; pan fu farw yntau yn 1761, ysgwyddodd hi faich y brosiect. Rhwng 1736 a 1776, cynhaliwyd 6,321 o ysgolion a rhoddwyd elfennau addysg Gymraeg i 304,475 o blant ac oedolion, sef bron i hanner poblogaeth Cymru.
Bu farw Madam Bevan yn Nhalacharn yn 1779. Gadawodd £10,000 i'r ysgolion (swm sylweddol iawn yn y 18g). Ond gwrthynebodd rhai o'i pherthnasau yr ewyllys am 30 o flynyddoedd, ac erbyn i'r arian gael ei ryddhau yn 1804 roedd y swm wedi tyfu i £30,000.
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- (Saesneg) Bywgraffiad
- (Saesneg) Bywgraffiad
- (Saesneg) Bridget Bevan (1698-1779) Llyfrgell John Rylands [dolen farw]
- (Saesneg) Bywgraffiad byr
- Portread Bridget Bevan ar safle Casglu'r Tlysau[dolen farw]