Dada: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Huw P (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 13:
[[File:Francis Picabia, photograph published in Les Peintres Cubistes, 1913.jpg|bawd|150px|Francis Picabia, 1913]]
[[File:Beatrice Wood and Marcel Duchamp.jpg|bawd|150px|Beatrice Wood a Marcel Duchamp, 1917]]
Bu'r Swistir yn wlad niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ddihangfa i arlunwyr a llenorion ifanc fel [[Yr Almaen|yr Almaen]] a [[Ffrainc]] a oedd am osgoi gorfod ymladd ac oedd yn gwrthwynebu i'r teimladau cryfion o wladgarwch, jingoistiaeth a chasineb a oedd ar led trwy bobloedd Ewrop ar y pryd. Wrth i'r rhyfel troi'n gyflafan waedlyd bu llawer yn ystyried roedd dynoliaeth wedi colli pob rheswm ac wedi disgyn i wallgofrwydd.
Sefydlodd yr [[Yr Almaen|Almaenwyr]] Hugo Ball a Emmy Hennings glwb cabaret yn Zurich gan o'r enw 'Cabaret Voltaire' ble gynhaliwyd perfformiadau yn gwawdio a dychanu 'synnwyr cyffredin' ac ymddygiad 'normal'. Enwyd y clwb ar ôl yr awdur Ffrangeg [[Voltaire]] (1694-1778) a ymosododd ar arferion cymdeithas ei gyfnod yn ei lyfr ''[[Candide]]''.
 
O'r Cabaret Voltaire tyfodd fudiad celfyddydol anffurfiol. Dewiswyd yr enw di-ystyr, plentynaidd 'Dada' ac yn fuan fe ledodd i [[Berlin]], [[Paris]] ac [[Efrog Newydd]].