Dada
Roedd Dada yn fudiad celfyddydol avant-garde Ewropeaidd ar ddechrau'r 20g. Dechreuwyd yn wreiddiol yn Zürich, Y Swistir ym 1916 fel ymateb yn erbyn erchylltra a gwallgofrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Enghraifft o'r canlynol | symudiad celf, mudiad llenyddol, mudiad diwylliannol, arddull mewn celf |
---|---|
Math | avant-garde |
Dechrau/Sefydlu | 1910s |
Olynwyd gan | Swrealaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd peintiadau, barddoniaeth a pherfformiadau artistiaid Dada yn aml yn ddychanol neu'n ymddangos yn absẃrd[1]
Ymhlith prif ymgyrchwyr y mudiadad roedd: Hugo Ball, Emmy Hennings, Hans Arp, Raoul Hausmann, Hannah Höch, Johannes Baader, Tristan Tzara, Francis Picabia, Richard Huelsenbeck, George Grosz, John Heartfield, Marcel Duchamp, Beatrice Wood, Kurt Schwitters, Hans Richter, a Max Ernst.
Hanes
golyguBu'r Swistir yn wlad niwtral yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ddihangfa i arlunwyr a llenorion ifanc o'r Almaen a Ffrainc a oedd am osgoi gorfod ymladd ac oedd yn gwrthwynebu teimladau cryfion o wladgarwch, jingoistiaeth a chasineb a oedd ar led trwy bobloedd Ewrop ar y pryd. Wrth i'r rhyfel droi'n gyflafan waedlyd bu llawer yn ystyried fod dynoliaeth wedi colli pob rheswm ac wedi disgyn i wallgofrwydd.
Sefydlodd yr Almaenwyr Hugo Ball a Emmy Hennings glwb cabaret yn Zürich o'r enw Cabaret Voltaire ble gynhaliwyd perfformiadau yn gwawdio a dychanu 'synnwyr cyffredin' ac ymddygiad 'normal'. Enwyd y clwb ar ôl yr awdur Ffrangeg Voltaire (1694-1778) a ymosododd ar arferion cymdeithas ei gyfnod yn ei lyfr Candide.
O'r Cabaret Voltaire tyfodd mudiad celfyddydol anffurfiol. Dewiswyd yr enw di-ystyr, plentynnaidd 'Dada' ac yn fuan fe ledodd i Berlin, Paris ac Efrog Newydd.
Amcan y Dadawyr oedd troi rhesymeg wyneb i waered. Gan greu amrywiaeth eang o steils ac arddulliau newydd, roedd eu gwaith yn cynnwys, peintiadau, cerfluniaeth, llenyddiaeth, barddoniaeth, theatr, ffotograffiaeth, sinema a chollage.
Dylanwadwyd ar y Dadawyr gan fudiadau celfyddydol avant-garde eraill y cyfnod fel Ciwbiaeth, Dyfodoliaeth (Futurism) a Mynegiadaeth (Expressionism) ac anti-art (a ddyfeisiwyd ychydig o flynyddoedd yn gynt gan Marcel Duchamp).[2]
Roedd eu gweithgareddau yn cynnwys cyfarfodydd cyhoeddus, gwrthdystiadau a chyoeddi cylchgronau a maniffestos a oedd yn ddadlau'n frwd celfyddyd, diwylliant a gwleidyddiaeth.
Yn ogystal â bod yn erbyn rhyfel ac yn wrth-sefydliadol, roedd syniadaeth y Dadawyr yn aml yn gefnogol i fudiadau radicalaidd asgell chwith.[1]
Erbyn y 1930au yn yr Almaen, cafodd waith Dada ei gondemnio fel Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsïaid a'i atal rhag ei arddangos yn gyhoeddus. Cafodd lawr o'r darluniau eu cipio a llyfrau eu llosgi gan y Natsïaid ac yn ddiweddarach anfonwyd llawer o'r artistiaid ac ysgrifenwyr na lwyddodd i ddianc yr Almaen i garchar neu'u lladd.
Wedi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf symudodd Tristan Tzara a nifer o'r Dadawyr o'r Swistir i Baris ble roeddent yn ddylanwadol iawn ymlith yr arlunwyr a llenorion avant-garde wrth i syniadaeth Dada gyfrannu at y genhedlaeth nesaf o fudiadau celf, yn arbennig Swrealaeth.[3]
Yr enw Dada
golyguMae tarddiad yr enw Dada'n aneglur, mae rhai'n credu ei fod yn air diystyr; mae eraill yn mynnu ei fod yn dod o'r iaith Rwmaneg – y gair am 'ie'. Roedd Tristan Tzara a Marcel Janco'n Rwmaniaid a sylwyd ar eu defnydd cyson o 'Da Da' gan eu cyfeillion yn Zürich. Mae eraill yn cyfeirio at hanes y grŵp o arlunwyr yn y Swistir yn dewis y gair ar hap trwy bwyntio cyllell ar eiriadur Ffrangeg – Almaeneg. Y cyllell yn glanio ar 'Dada' - gair plentynnaidd am geffyl pren neu hobi (fel hobby horse yn Saesneg).[4]
(Trwy gyd-ddigwyddiad defnyddir hefyd y gair 'Da Da' yn rhai ardaloedd o ogledd-orllewin Cymru ar gyfer melysion), fel a wneir yn Ffrangeg, gyda bon-bon.[5]
Enghraifft
golygu- Sut i wneud barddoniaeth Dada gan Tristan Tzara
♦ Cymerwch siswrn
♦ Dewiswch erthygl mor hir â'r gerdd rydych yn ei bwriadu
♦ Torrwch allan yr erthygl
♦ Wedyn torrwch bob gair sydd yn ffurfio'r erthygl ac yna'u rhoi mewn bag.
♦ Ysgydwch y bag yn ofalus
♦ Wedyn cymerwch y darnau allan, un ar ôl y llall, yn y drefn y maent yn gadael y bag.
♦ Copïwch yn gydwybodol
♦ Bydd y gerdd yn debyg ichi
♦ A dyma chi'n ysgrifennwr, yn wreiddiol hyd yr eithaf gyda dawn ddisglair ond heb werthfawrogiad yr heidiau cyffredin[6]
Rhai Dadawyr
golygu- Pierre Albert-Birot (1876-1967)
- Guillaume Apollinaire (1880-1918)
- Louis Aragon (1897-1982)
- Jean/Hans Arp (1886-1966)
- Alice Bailly (1872 -938)
- Johannes Baader (1875-1955)
- Johannes Theodor Baargeld (1892-1927)
- Hugo Ball (1886-1927)
- André Breton (1896-1966)
- Arthur Cravan (1887- 1918?)
- Jean Crotti (1878-1958)
- Theo van Doesburg (1883-1931)
- Marcel Duchamp (1887-1968)
- Paul Éluard (1895-1952)
- Max Ernst (1891-1976)
- Julius Evola (1898-1974)
- Lyonel Feininger (1871-1956)
- Elsa von Freytag-Loringhoven (1874-1927)
- George Grosz (1893-1959)
- Raoul Hausmann (1886-1971)
- John Heartfield (1891-1968)
- Emmy Hennings (1885-1948)
- Wieland Herzfelde (1896-1988)
- Hannah Höch (1889-1978)
- Richard Huelsenbeck (1892-1974)
- Marcel Janco (1895-1984)
- Tsuji Jun (1884-1944)
- Hans Leybold (1892-1914)
- Filippo Tommaso Marinetti (1876-1944)
- Agnes Elizabeth Ernst Meyer (1887-1970)
- Pranas Morkūnas (1900-1941)
- Clément Pansaers (1885-1922)
- Francis Picabia (1879-1953)
- Man Ray (1890-1976)
- Georges Ribemont-Dessaignes (1884-1974)
- Hans Richter (1888-1976)
- Kurt Schwitters (1887-1948)
- Rudolf Schlichter (1890-1955)
- Walter Serner (1889-1942)
- Philippe Soupault (1897-990)
- Sophie Taeuber-Arp (1889-1943)
- Tristan Tzara (1896- 1963)
- Takahashi Shinkichi (1901- 1987)
- Beatrice Wood (1893- 1998)
- Marius de Zayas (1880-1961)
- Yi Sang (1910-1937)
- Yves Klein (1928 -1962)
- Christian Schad (1894-1982)
- Viking Eggeling (1880-1925)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 http://www.tate.org.uk/learn/online-resources/glossary/d/dada
- ↑ http://www.theartstory.org/movement-dada.htm
- ↑ Tristan Tzara 1896–1963", in Susan Salas, Laura Wisner-Broyles, Poetry Criticism, Vol. 27, Gale Group Inc., 2000, eNotes.com; retrieved April 23, 2008
- ↑ http://www.dadart.com/dadaism/dada/020-history-dada-movement.html
- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1422 [sweet].
- ↑ http://www.writing.upenn.edu/~afilreis/88v/tzara.html