Castell Odo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Castell Odo''' yn [[bryngaer|fryngaer]] o ddechrau [[Oes yr Haearn]] gerllaw [[Aberdaron]], [[Gwynedd]]. Saif gerllaw'r ffordd B4413 rhyw filltir a hanner o'r pentref.
 
Mae'r gaer ar fryn gweddol fychan, sydd wedi ei amgylchynu gan ddau gylch o amddiffynfeydd. Y cylch allanol yw'r hynaf, ac ymddengys ei fod wedi bod o bren yn wreiddiol, cyn i'r wal bren gael ei throi yn amddiffynfeydd pridd. Ceir olion cytiau crwn ar ben y bryn, rhai efallai wedi eu hadeiladu cyn i'r amddiffynfeydd gael eu codi. Darganfuwyd crochenwaith yma sy'n dyddio o ddiwedd [[Oes yr Efydd]], felly credir fod y safle yma yn un o'r cynharaf o'i bath yng Nghymru. Gellir gweld olion o leiaf wyth tŷ cerrig tu mewn i'r amddiffynfeydd.