Scordisci: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mae [[Strabo]] yn crybwyll Celtiaid yn yr ardal cyn gynhared a 300 CC. Yn [[279 CC]], dechreuasant symud tua [[Pannonia]], gan ymsefydlu ym mhen draw [[Moesia]] lle mae [[Afon Sava]] ac [[Afon Donaw]] yn cyfarfod. Tyfodd eu prif gaer yma i fod yn ddinas [[Beograd]] heddiw.
 
Yn [[135 CC]] gorchfygwyd hwy gan [[Cosconius]] yn [[Thrace]]. Yn [[118 CC]], yn ôl cofeb ger [[Thessalonica]], lladdwyd Sextus Pompeius, taid y triumvir yn ôl pob tebyg, wrth frwydro yn eu herbyn. Yn [[114 CC]] llwyddasant i ddinistrio byddin Rufeinig dan [[Gaius Porcius Cato]] ym mynyddoedd gorllewin Serbia, ond cawsant eu gorchfygu gan [[Minucius Rufus]] yn [[107 CC]].
 
Parhaodd ymladd ysbeidiol rhyngddynt hwy a'r Rhufeiniaid, ond yn [[88 CC]] gyrrodd [[Lucius Cornelius Scipio Asiaticus]] hwy dros Afon Donaw. Erbyn amser Strabo toeddynt wedi eu gyrru o ddyffryn Afon Donaw gan y [[Daciaid]], ac yn ddiweddarach daethant dan reolaeth y Daciaid.