Lugh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Roedd '''Lugh''' (yn gynharach '''Lug''', Gwyddeleg modern: '''Lú''') yn gymeriad ym mytholeg Iwerddon ac yn ffurf ar y duw Celtaidd a elwid yn Lugus yng ...
 
ehangu
Llinell 1:
Roedd '''Lugh''' (yn gynharach '''Lug''', [[Gwyddeleg]] modern: '''Lú''') yn gymeriad ym [[mytholeg Iwerddon]] ac yn ffurf ar y duw [[y Celtiaid|Celtaidd]] a elwid yn [[Lugus]] yng [[Gâl|Ngâl]] a [[Lleu Llaw Gyffes|Lleu]] yng Nghymru. Gelwir ef wrth nifer o enwau megis ''Lámhfhada'' ("law hir") oherwydd ei allu gydag arfau megis gwaywffon (cymharer "Llaw Gyffes" am Lleu). Enw arall arno yw ''Samíldanach'' ("deheuig ymhob crefft"). Fe'i cysylltir â gŵyl [[Lugnasad]] (Calan Awst).
 
Ei dad oedd [[Cian]] ("Pellter") fab [[Dian Cécht]] o'r [[Tuatha Dé Danann]] a'i fam oedd [[Ethniu]] (Eithne/Enya), merch y [[cawr]] [[Balor]], un o'r [[Fomoriaid]]; gelwir ef yn '''Lug(h) mac Ethnenn''' weithiau oherwydd hynny. Yn chwedlau [[Cylch Wlster]] mae'n dad i'r arwr [[Cú Chulainn]].

Yn ôl un chwedl, roedd proffwydoliaeth y byddai Balor yn cael ei ladd gan ei ŵyr, felly cadwodd ei ferch, Ethniu, yn garcharor mewn tŵr crisial. Gallodd Cian fynd i mewn i'r tŵr gyda chymorth y [[Derwydd|dderwyddes]] [[Birog]], a ganwyd tri phlentyn i Ethniu. Taflodd Balor y tri i'r môr, lle boddodd dau neu droi yn forloi, ond achubwyd Lugh gan Birog, a'i rhoes i [[ManannanManannán mac Lir]] yn fab maeth. Mae tebygrwydd yma i'r hanes am eni Lleu Llaw Gyffes a'i efaill [[Dylan Eil Ton|Dylan]] yn chwedl ''[[Math fab Mathonwy]]''.
 
Mae gan Lugh ran bwysig yn hanes y Tuatha Dé Danann. Ym mrwydr Mag Tuired (''[[Cath Maige Tuired]]'') Lugh sy'n arwain y Tuatha i fuddugoliaeth dros y Fomoriaid.
 
===Gweler hefyd===
*[[Lugnasad]]
 
{{eginyn}}
 
[[Categori:Y Celtiaid]]
[[Categori:Mytholeg Geltaidd]]
 
[[de:Lugh]]