Crannog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Llyn Cerrig Bach
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
 
==Crofft-y-Bwla, Trefynwy==
Yn 2012, tra'n tyllu mewn ystâd o dai o'r enw 'Parc Glyndŵr' yng nghanol [[Trefynwy]], darganfu Martin Tuck o Gymdeithas Archaeoleg Trefynwy olion crannog - tŷ enfawr, hir; mae'r ystâd o dai hwn ar dir fferm 'Crofft-y-Bwla'. Yn 2015 datgelwyd fod yr olion mor hen â'r [[Oes Efydd]] ac y bu yno waith adeiladu cychod mewn llyn enfawr, sydd wedi diflannu ers canrifoedd. Darganfuwyd ffosydd twfn, metr o led, yn sianeli hirion dros bridd a losgwyd ac a ddyddiwyd i [[Oes Newydd y Cerrig]] gan system dyddio radiocarbon: 5,000 o flynyddoedd yn ôl (2,917 CC). Mae hyn yn golygu fod y crannog hwn yn Nhrefynwy yn 2,000 o flynyddoedd yn hŷn nag unrhyw anhediad-llyn drwy Lloegr a Chymru ac yn 300 mlynedd cyn adeiladu [[pyramid|pyramidiau]]'r [[Aifft]].
 
Cafwyd hyd hefyd i lawer o olion preswylio o [[Oes y Cerrig]] a'r cyfnod pan y bu'r [[Rhufeiniaid yng Nghymru]].<ref>[http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/ancient-lakeside-settlement-older-pyramids-9702162#ICID=sharebar_twitter www.walesonline.co.uk;] adalwyd 2015</ref>