Luc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B Categori:Y Testament Newydd a rheoli awdurdod
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B Ychen --> Ych
Llinell 2:
[[Sant]] [[Cristnogaeth|Cristnogol]] oedd '''Luc''' (o'r [[Groeg (iaith)|Groeg]] ''Λουκᾶς'', ''Loukás''), un o'r pedwar [[Efengyl|Efengylydd]] ynghŷd a [[Mathew]], [[Marc]] a [[Ioan]]. Yn ôl traddodiad ef oedd awdur [[yr Efengyl yn ôl Luc]] ac [[Actau'r Apostolion]], dau o lyfrau'r [[Testament Newydd]]. Dethlir ei ddydd gŵyl ar [[18 Hydref]].
 
Mae bron y cyfan a wyddom am Luc yn dod o'r Testament Newydd. Yn ôl [[Llythyr Paul at y Colosiaid]] (4:14) roedd yn feddyg, a honir o Col. 4:11 ei fod yn Roegwr; mae natur idiomatig ei iaith yn ategu'r ddamcaniaeth hon. Roedd yn ddisgybl i'r apostol [[Paul]] ac yn gydymaith iddo ar ei deithiau i wlad Groeg a Rhufain. Honir ei fod wedi pregethu yn yr Aifft a gwlad Groeg wedi marwolaeth Paul. Ef yw nawddsant meddygon ac arlunwyr. [[YchenYch]] adeiniog yw ei symbol.
 
Yn 356–7 OC trosglwyddwyd ei greiriau o [[Thebes]] i [[Caergystennin|Gaergystennin]], a phan adeiladwyd eglwys yr Apostoleion yn y ddinas honno fe'i harddongoswyd yno. Mae traddodiad hwyrach bod Luc wedi bod yn arlunydd, ac ei fod wedi peintio portread [[y Forwyn Fair]]. Yn yr oesoedd canol, priodolwyd peintiad o Fair yn eglwys [[Santa Maria Maggiore]] yn Rhufain iddo.