Thomas Williams, Llanidan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) llyfr |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
||
Llinell 1:
Roedd '''Thomas Williams, Llanidan''' ([[13 Mai]] [[1737]] - [[30 Tachwedd]] [[1802]]) yn un o ddiwydiannwyr amlycaf y [[18fed ganrif]].
Roedd Thomas Williams yn fab o Owen Williams, Cefn Coch, [[Llansadwrn]], [[Ynys Môn]].
O gwmpas [[1785]] daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Erbyn tua 1800 dywedid bod tua hanner y diwydiant copr yn ei ddwylo ef. Roedd yn boblogaidd gyda'r gweithwyr, a'i galwai'n "Twm Chwarae Teg", ond yn llai poblogaidd gyda'i gystadleuwyr mewn busnes.
Daeth yn Aelod Seneddol dros Great Marlow yn Lloegr yn 1790. a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth. Dywedir mai ef oedd y gŵr cyfoethocaf yng Nghymru erbyn hynny.
|