Aneirin Karadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywiro; gwiro ayb. Dileu rhannau os nad oes ffynhonnell. |
|||
Llinell 1:
Bardd, darlledwr, perfformiwr
Bu'n ddisgybl yn [[Ysgol Gynradd Pont-Siôn-Norton]] ac yna yn Ysgol Gyfun Rhydfelen rhwng 1993-2000. Graddiodd wedyn o'r [[Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen]], gyda gradd mewn [[Ffrangeg]] a [[Sbaeneg]]. Mae ei fam yn Llydawes a'i dad yn Gymro; gall siarad Cymraeg, Saesneg, Llydaweg, Ffrangeg a Sbaeneg yn rhugl.
Mae bellach yn byw ym [[Pontyberem|Mhontyberem]] yng [[Cwm Gwendraeth|Nghwm Gwendraeth Fawr]] gyda'i wraig Laura.
==Gyrfa==
Enillodd [[Gwobr Emyr Feddyg|Wobr Emyr Feddyg]] yn Eisteddfod Casnewydd 2004 a Chadair Eisteddfod yr Urdd yn 2005. Cyhoeddodd gerddi ar y cyd yn y gyfrol ''Crap Ar Farddoni''. Yn [[Eisteddfod Wrecsam 2011]] enillodd ar gystadleuaeth Y Delyneg.{{angen ffynhonnell}} Ym mis Mawrth 2012 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi yn unigol: ''O Annwn i Geltia'' (Cyhoeddiadau Barddas). Cyfrannodd Huw Aaron ugain o luniau a chlawr i'r gyfrol.<ref>[http://www.gwales.com/goto/biblio/en/9781906396473/SPY09?lang=CY&tsid=1 Gwefan Gwales;] adalwyd 17 Chwefror 2015</ref> Enillodd y gyfrol "O Annwn i Geltia" wobr Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn. Yn Eisteddfod yr Urdd Boncath, 2013, cyhoeddwyd mai Aneirin yw Bardd Plant Cymru 2013-2015. Mae bellach yn gweithio fel bardd a darlledwr llawrydd.
==Cerddoriaeth a llenyddiaeth==
Bu'n aelod o [[Genod Droog]] a'r [[Diwygiad (grŵp)|Diwygiad]]<ref>{{dyf gwe |url=http://www.literaturewales.org/rhestr-o-awduron/i/131877/ |teitl=Karadog, Aneirin |cyhoeddwr=[[Llenyddiaeth Cymru]] |dyddiadcyrchiad=30 Tachwedd 2012 }}</ref> ac mae wedi cyfrannu i amryw o albymau cerddorol, gyda [[Llwybr Llaethog (band)|Llwybr Llaethog]], [[Cofi Bach]] a [[Tew Shady]]. Ym Mis Mawrth 2012 cyd-greodd a pherfformiodd Aneirin Bx3, sioe farddoniaeth i blant, ar y cyd gydag Eurig Salisbury, Catrin Dafydd a Llyr Bermo.<ref>[http://www.celfcymru.org.uk/56058?diablo.lang=cym www.celfcymru.org.uk;] Gwefan www.celfcymru.org.uk, Cyngor Celfyddydau Cymru;] adalwyd 17 Chwefror 2015</ref>
Llinell 11 ⟶ 16:
Yn 2007 cyflwynodd Aneirin Karadog gyfres ''Byd y Beirdd'' i Radio Cymru. Yn 2013, cyflwynodd a sgriptiodd Aneirin rhaglen ddogfen am Zombis i S4C o'r enw 'Sombis! Byd y Meirw Byw' Yn 2014 cyflwynodd ac actiodd Aneirin estyniad o'i hunan gyda barf piws hir mewn cyfres o'r enw Y Barf ar S4C, gan ymdrechu i gyflwyno barddoniaeth i wylwyr ifanc S4C mewn ffordd hwyliog.<ref>[http://www.s4c.co.uk/caban/?p=10537 Gwefan S4C;] adalwyd 17 Chwefror 2015</ref>
== Llyfryddiaeth ==
|