Richard Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B manion
B Cywiriadau ieithyddol
Llinell 1:
:''Am enghreifftiau eraill o bobl o'r enw Richard Davies, gweler [[Richard Davies (gwahaniaethu)]].''
 
Esgob a chyfieithydd oedd '''Richard Davies''' (?[[1501]] – [[7 Tachwedd]] [[1581]]), a aned yn y [[Gyffin]], ger tref [[Conwy (tref)|Conwy]]. Yn ystod ei yrfa eglwysig bu'n esgobEsgob [[Esgob Llanelwy|Llanelwy]] a [[Esgob Tyddewi|TyddewiThyddewi]]. Fe'i cofir yn bennaf am ei waith ar y cyd â [[William Salesbury]] yn cyfieithu'r [[Testament Newydd]] i'r [[Gymraeg]]. Roedd yn ewythr i'r ysgolhaig [[Siôn Dafydd Rhys]] (John Davies).
 
==Bywgraffiad==
Cafodd ei addysg ym [[Prifysgol Rhydychen|Mhrifysgol Rhydychen]] lle daeth dan ddylanwad y diwygwyr [[Protestaniaeth|Protestannaidd]]. Ar ôl treulio cyfnod mewn alltudiaeth yn ninas [[Frankfurt]] yn [[yr Almaen]] oherwydd ei ffydd ar ddiwedd teyrnasiad [[Mari, brenhines yr Alban|Mari, Brenhines yr Alban]], dychwelodd i Gymru a chafodd ei apwyntio'n esgobEsgob [[Llanelwy]] ac yna ynym [[1561]] yn esgobEsgob [[Tyddewi]].
 
Gweithiai'n ddyfal gyda [[William Salesbury]] i berswadio senedd [[San Steffan]] i basio deddf i awdurdodi cyfieithu'r [[Beibl]] a'r [[Llyfr Gweddi Gyffredin]] i'r Gymraeg a phan gafwyd y ddeddf honno ynym [[1563]] ymunodd â Salesbury yn ei blas yn [[Abergwili]] i gyfieithu'r [[Testament Newydd]] gyda fo. Richard Davies yw awdur yr ''[[Epistol at y Cembru]]'' ('Llythyr at y Cymry') a geir ar ddechrau Testament Newydd [[1567]]; cafodd ddylanwad mawr ar [[hanesyddiaeth]] [[Cymru]].
 
Roedd Richard Davies yn noddwr hael i feirdd a llenorion ei oes a gwnaeth gryn dipyn i gael gwared â'r llygredd oedd yn rhemp yn yr eglwys ar y pryd. Bu farw yn Abergwili, lle'i claddwyd.