Cerddoriaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Mozart k545 opening.png|de|250px|bawd|Dechrau sonata piano K545 gan Mozart]]
'''Cerddoriaeth''' yw celfyddyd a fynegir drwy gyfrwng sŵn wedi'i drefnu mewn amser. Elfennau cyffredinol cerddoriaeth yw [[traw (cerddoriaeth)|traw]] sy'n rheoli [[alaw (cerddoriaeth)|alaw]] a [[harmoni]], [[rhythm]] (a'i gysyniadau perthynol [[tempo]] a [[medr (cerddoriaeth)|medr]]), [[deinameg (cerddoriaeth)|deinameg]], [[soniaredd]] a [[gwead (cerddoriaeth)|gwead]].
 
Mae'r cread, perfformiad, arwyddocâd a hyd yn oed diffiniad cerddoriaeth yn amrywio yn ôl diwylliant a chyd-destun cymdeithasol. Mae cerddoriaeth yn amrywio o gyfansoddiadau trefniedig llym (a'u hail-gread yn ystod perfformiad) i ffurfiau cerddorol byrfyfyriol. Fe ellir rhannu cerddoriaeth i mewn i ''[[genres]]'' gwahanol.