Mangas Coloradas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Gweler hefyd: Awdurdod |
Sammyday (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 2:
===Arweinydd rhyfel===
Yn y 1820au a'r 1830au, prif elyn yr Apache oedd y [[Mecsicanwyr]], a oedd wedi ennill annibyniaeth oddi ar [[Sbaen]] yn 1821. Erbyn 1835 roedd llywodraeth [[Mexico]] yn cynnig gwobrau ariannol am [[sgalp]]au'r Apache: $100 am sgalp dyn, $50 am sgalp merch, a $25 am sgalp plentyn. Ar ôl i Juan José
Yn 1846 aeth yr Unol Daleithiau i ryfel a Mecsico, a warantiodd Cenedl yr Apache saffgwndid i filwyr yr UD groesi ei thir. Ar ôl i'r UD feddiannu [[New Mexico]] yn 1846, arwyddodd Mangas Coloradas gytundeb heddwch gyda llywodraeth UDA. Ond ansefydlog oedd yr heddwch hwnnw; dechreuodd mewnfudwyr yn ceisio [[aur]] a thir aflonyddu ar yr Apache a bu ymladd rhyngddynt. Yn 1851, ger gwersyll cloddio Pinos Altos, ymosododd y mwyngloddwyr ar Mangas a'i sarhau. Dilynodd cyfres o ddigwyddiadau tebyg ac ymledodd yr ymladd. Yn Rhagfyr 1860 lawnsiodd 30 o fwyngloddwyr ymosodiad sydyn ar wersyllfa Apaches Bedonkohes ar lan [[Afon Mimbres]], gan ladd pedwar a dal 13 o ferched a phlant. Yn fuan ar ôl hynny dechreuodd Mangas ymosod ar yr ymsefydlwyr Americanaidd.
|