Caracalla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
dyddiadau geni a marwolaeth, a newid llun
Llinell 1:
[[Delwedd:Caracalla03Caracalla pushkinMAN Napoli Inv6033 n01.jpg|bawd|200px|de|Caracalla]]
 
'''Marcus Aurelius Antoninus Basianus''' ([[4 Ebrill]] [[186]] -– [[8 Ebrill]] [[217]]), mwy adnabyddus fel '''Caracalla''', oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[211]] hyd ei farwolaeth. Daw'r enw ''Caracalla'' o ''"caracallus"'', math o ddilledyn, efallai clogyn, a wisgai'r ymerawdwr yn gyson.
 
Ganed Caracalla yn Lugdunum, [[Lyon]] yn [[Ffrainc]] heddiw, yn fab i [[Septimius Severus]] oedd ar y pryd yn rhaglaw talaith [[Gallia Lugdunensis]]. Pan ddaeth ei dad yn ymerawdwr cafodd Caracalla y teitl "Cesar" pan oedd yn saith oed. Yn [[198]] enwyd wf yn "Augustus", ac felly'n gyd-ymerawdwr a'i dad. Yn [[209]] enwyd ei frawd [[Geta]] yn gyd-ymerawdwr hefyd. I gryfhau ei sefyllfa, gorfododd ei dad Caracalla i briodi Plautina, Plautianus, pennaeth [[Gard y Praetoriwm]].