Môr-wennol bigddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 20:
}}
Mae'r '''Forwennol Bigddu''' (''Thalasseus sandvicensis'') yn aelod o deulu'r Sternidae, y [[Morwennol|morwenoliaid]].
Mae tri is-rywogaeth:
*''T. s. sandvicensis'' sy'n nythu ar arfordir [[Ewrop]] ac yn gaeafu ar arfordir gorllewin [[Affrica]] ac [[Arabia]].
*''T. s. acuflavida'', sydd ychydig yn llai ac yn nythu ar arfordir dwyreiniol [[Gogledd America]] ac yn gaeafu yn y [[Caribî]].
*''T. s. eurygnatha'' sydd a'r pig yn felyn, yn nythu ar arfordir dwyreiniol [[De America]] o'r [[Ariannin]] i'r Caribî. Mae rhai awduron yn ystyried y math yma yn rywogaeth ar wahan, ''T. eurygnatha''.
Mae'r Forwennol Bigddu yn nythu gyda'i gilydd, weithiau gannoedd neu filoedd o adar, ar yr arfordir neu ar ynysoedd. Nid yw'n ymosodol iawn, felly mae'n aml yn nythu gydag adar eraill, fel y [[Gwylan Benddu|Wylan Benddu]] sy'n fwy tebyg o ymosod ar unrhyw anifail neu aderyn sy'n dod yn rhy agos i'r nythod.
Pysgod bychain yw eu bwyd, sy'n cael eu dal trwy hedfan uwchben y dŵr ac yna plymio i mewn iddo pan welir pysgodyn yn agos i'r wyneb. Mae'n fwy na'r rhan fwyaf o'r morwenoliaid eraill,
Mae'r Forwennol Bigddu yn aderyn gweddol gyffredin o gwmpas arfordir [[Cymru]] yn yr haf. Dim ond mewn un lle mae'n nythu yng Nghymru, sef [[Cemlyn]] ar [[Ynys Môn]], ond yn y blynyddoedd diwethaf mae tua 1,500 o barau wedi nythu yno.
|