Caws Caerffili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1:
[[Image:Caerphilly Cheese.jpg|bawd|200px|Caws Caerffili]]
Mae '''Caws Caerffili''' yn [[Caws|gaws]] caled wedi ei wneud o [[llaeth|laeth]] [[buwch]], sy'n dod yn wreiddiol o'r ardal oddi amgylch tref [[Caerffili]] yn ne-ddwyrain [[Cymru]]. Nid oedd yn cael ei gynhyrchu yn y dref ei hun yn wreiddiol, ond roedd caws a gynhyrchwyd yn y cyffiniau yn cael ei werthu yn y farchnad yng Nghaerffili ac felly cafodd yr enw 'Caws Caerffili'.
Mae'r caws o liw golau, bron yn wyn, gyda chynnwys [[braster]] o tua 48%. Nid yw'r blas yn arbennig o gryf, ond mae'n weddol hallt. Dywedir fod hyn wedi datblygu er mwyn i'r [[Diwydiant glo Cymru|glöwyr]] gael digon o [[halen]] i gymeryd lle'r halen yr oeddynt yn ei golli mewn chwŷs wrth weithio.
Erbyn heddiw mae Caws Caerffili yn un o'r cawsydd mwyaf cyfarwydd ar silffoedd [[siop]]au ac [[archfarchnad]]oedd yng ngwledydd Prydain ac yn cael ei gynhyrchu mewn nifer o leoedd.
|