Caws Caerffili
Mae Caws Caerffili yn gaws caled wedi ei wneud o laeth buwch, sy'n dod yn wreiddiol o'r ardal oddi amgylch tref Caerffili yn ne-ddwyrain Cymru. Nid oedd yn cael ei gynhyrchu yn y dref ei hun yn wreiddiol, ond roedd caws a gynhyrchwyd yn y cyffiniau yn cael ei werthu yn y farchnad yng Nghaerffili ac felly cafodd yr enw 'Caws Caerffili'.
Math | caws llaeth buwch, caws o wledydd Prydain |
---|---|
Deunydd | llaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r caws o liw golau, bron yn wyn, gyda chynnwys braster o tua 48%. Nid yw'r blas yn arbennig o gryf, ond mae'n weddol hallt. Dywedir fod hyn wedi datblygu er mwyn i'r glöwyr gael digon o halen i gymeryd lle'r halen yr oeddynt yn ei golli mewn chwŷs wrth weithio.
Erbyn heddiw mae Caws Caerffili yn un o'r cawsydd mwyaf cyfarwydd ar silffoedd siopau ac archfarchnadoedd yng ngwledydd Prydain ac yn cael ei gynhyrchu mewn nifer o leoedd.