Brinley Richard Lewis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Morfuddnia (sgwrs | cyfraniadau)
B ychwanegu links
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
Yr Uwchgapten Brinley ‘Bryn’ Richard Lewis ([[4 Ionawr]] [[1891]] - [[2 Ebrill]] [[1917]]), chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru, a fu’n chwarae rygbi i dimoedd Casnewydd a Phrifysgol Rhydychen. Mae’n un o’r deuddeg chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a fu farw ar wasanaeth milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
 
Ganwyd Bryn Lewis ym [[Pontardawe|Mhontardawe]], Cymru ar y 4ydd o Ionawr 1891. Yr oedd ei rieni'n berchen waith haearn Glantawe, Pontardawe. Fe'i addysgwyd yn [[Ysgol Ramadeg Abertawe]], lle bu'n gapten y tîm rygbi, gan chwarae i dîm bechgyn ysgol Cymru ym 1905. Aeth ymlaen i ddarllen y gyfraith yng [[Coleg y Drindod, Caergrawnt|Ngholeg y Drindod, Caergrawnt]], gan ennill ei le yn nhîm rygbi'r coleg, lle’r enillodd 3 ‘blue’ wrth gael ei ddewis ar gyfer tair gêm ‘Varsity’ yn olynol i’r brifysgol rhwng 1909-11. Byddai hefyd yn chwarae i dîm rygbi Pontardawe yn ystod y gwyliau, ac ymunodd a thîm Abertawe<ref>[http:// http://www.swansearfc.co.uk/Teams/Player?personId=101315 Swansea RFC player profiles]</ref> yn ystod tymor 1909-10.
 
Enillodd ei [[Cap (chwaraeon)|gap]] cyntaf dros Gymru yn erbyn [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Iwerddon|Iwerddon]] fel rhan o [[Pencampwriaeth y Pum Gwlad|Bencampwriaeth y Pum Gwlad]] yn ystod tymor 1911-12.
 
Roedd tîm [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Cymru]]’n ddibrofiad a collwyd y gêm o 12-5, ac fe gafodd Bryn Lewis ei feirniadu'n hallt gan y wasg. Llwyddodd i ad-ennill ei enw da yn ystod y tymor canlynol yn chwarae i dîmoedd Abertawe, Morgannwg a Chaergrawnt. O ganlyniad, cafodd gyfle arall i chwarae i Gymru yn erbyn Iwerddon ym 1912-13. Sgoriodd Lewis ddwy gais yn y gêm a welodd Cymru'n ennill o drwch blewyn. Cafodd gyfle i chwarae dros y [[Barbariaid]] yn ystod y Pasg yr un flwyddyn. Chwaraeodd eto dros y Barbariaid ym mis Ebrill 1914, ond cafodd ei hepgor o dîm Cymru yn nhymor 1913-14.
 
Cychwynodd ar swydd fel clerc erthyglog yn [[Abertawe]] ym 1914, ac ymunodd a Iwmyn Morgannwg ym mis Hydref 1914. Fel rhan o gynllun recriwtio'r fyddin, trefnwyd gêm arbennig ar [[Parc yr Arfau|Barc yr Arfau]] ym mis Ebrill 1915, a dyma'r tro olaf i Bryn Lewis chwarae gêm fawr o rygbi dros Gymru. Er mwyn cynyddu'r diddordeb yn y gêm, gwerthwyd y gêm fel gêm ryngwladol answyddogol yn erbyn Lloegr. Collodd Cymru'r gêm o 26-10, ond sgoriodd Bryn Lewis gais.
 
Ymunodd a'g adran arfog y 38th Welsh Division yn fuan wedi hyn, a chyrraedd [[Ffrainc]] ar ddydd Nadolig, 1915. Brwydrodd ym [[brwydr Mametz Wood|mrwydr Mametz Wood]], cyn i'r gatrawd symud ymlaen o'r [[Brwydr y Somme|Somme]] i [[Ypres]]. Penodwyd Bryn Lewis yn brif swyddog ac uwchgapten y "B Battery 122 Brigade RFA". Yn ystod daib yn y frwydr, a thra'n ymlacio'n bwyta ei frecwast gyda chyd swyddog, trawyd y ddau gan siel strae.<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4110419|title=BRYNLEWIS - South Wales Weekly Post|date=1917-04-14|accessdate=2015-09-07|publisher=William Llewellyn Williams}}</ref> Lladdwyd y ddau, ac fe'u claddwyd ym mynwent 'Frme-Olivier, Elverdinge, ger Boeshinge.<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4115557|title=HISGENERALSTRIBUTEI - Herald of Wales and Monmouthshire Recorder|date=1917-04-21|accessdate=2015-09-07|publisher=[s.n.]}}</ref>