Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberhonddu 1889: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Dolenni allanol: newidiadau man using AWB
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
Cynhaliwyd '''Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberhonddu 1889''' yn [[Aberhonddu]], [[Brycheiniog]] ([[Powys]]), o ddydd Mawrth [[27 Awst]] hyd ddydd Gwener [[30 Awst]], [[1889]], ar faes yng Ngherrigcochion, Aberhonddu. Roedd y pafiliwn anferth, a gynllunwyd i'r pwrpas gan un Mr Clark o [[Stoke-on-Trent]], yn medru dal 8,000 o bobl. Cawsai'r [[Eisteddfod Genedlaethol]] ei chyhoeddi ar y Maen Llog yn Aberhonddu ar 10 Gorffennaf 1888 gan yr Archdderwydd [[Clwydfardd]] gyda chymorth [[Hwfa Môn]], [[Dewi Wyn o Essyllt]], [[Watcyn Wyn]], [[Thomas Jones (Tudno)|Tudno]] ac eraill. Dywedir fod dros 2,000 wedi gwylio'r orymdaith trwy'r dref.
 
Darllenodd [[John Morris-Jones]] bapur ar bwnc [[orgraff]] yr iaith [[Gymraeg]] sy'n garreg filltir yn hanes sefydlu'r orgraff diweddar.