Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberhonddu 1889
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1889 yn Aberhonddu, Sir Frycheiniog (Powys bellach), o ddydd Mawrth 27 Awst hyd ddydd Gwener 30 Awst 1889, ar faes yng Ngherrigcochion, Aberhonddu. Roedd y pafiliwn anferth, a gynllunwyd i'r pwrpas gan un Mr Clark o Stoke-on-Trent, yn medru dal 8,000 o bobl. Cawsai'r Eisteddfod Genedlaethol ei chyhoeddi ar y Maen Llog yn Aberhonddu ar 10 Gorffennaf 1888 gan yr Archdderwydd Clwydfardd gyda chymorth Hwfa Môn, Dewi Wyn o Essyllt, Watcyn Wyn, Tudno ac eraill. Dywedir fod dros 2,000 wedi gwylio'r orymdaith trwy'r dref.
Enghraifft o'r canlynol | un o gyfres reolaidd o wyliau |
---|---|
Dyddiad | 1889 |
Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Lleoliad | Aberhonddu |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Darllenodd John Morris-Jones bapur ar bwnc orgraff yr iaith Gymraeg sy'n garreg filltir yn hanes sefydlu'r orgraff diweddar.
Enillodd Pedr Hir y wobr am gyfansoddi rhamant (yn cyfateb i'r Fedal Ryddiaith heddiw) am ei stori 'Rhamant Syr Rhys ap Thomas'; y beirniad oedd neb llai na'r nofelydd enwog Daniel Owen.
Cystadleuaeth | Teitl y Darn | Ffugenw | Enw |
---|---|---|---|
Y Gadair | Y Beibl Cymraeg | - | Evan Rees (Dyfed) |
Y Goron | Llewelyn ein Llyw Olaf | - | Howell Elvet Lewis (Elfed) |
Gweler hefyd
golygu- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
Cyfeiriadau
golygu- Cofnodion a chyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Aberhonddu, 1889, dan olygyddiaeth E. Vincent Evans (Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1889).