Harry Beadles: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
→‎Gyrfa bêl-droed: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 42:
 
==Gyrfa bêl-droed==
Ar ôl y Rhyfel Mawr dychwelodd Beadles i Gymru a chwaraeodd i'r [[C.P.D. Y Drenewydd|Drenewydd]] cyn symud i [[Glannau Merswy|Lannau Merswy]] i chwarae dros dîm amatur Graysons F.C.<ref name="lerpwl">{{cite web |url=http://www.liverpoolfc.com/history/past-players/harry-beadles |title=Harry Beadles |work=LiverpoolFC}}</ref> ac ym 1921 arwyddodd i [[Liverpool F.C.|Lerpwl]]. Er gwneud cryn argraff yn ei dymor cyntaf yn Anfield, lle rhwydodd chwe gôl mewn 12 gêm a dod yn aelod o'r garfan lwyddodd i ennill [[Y Gynghrair Bêl-droed|Cynghrair Lloegr]], methodd a sicrhau ei le yn y tîm y tymor canlynol, a symudodd i [[C.P.D. Dinas Caerdydd|Gaerdydd]] lle roedd ei gyn gyd filwr, George Latham, bellach yn hyfforddwr<ref name="lerpwlWhos Who" /><ref name="Whos Wholerpwl" />.
 
Ym 1924-25 llwyddodd Beadles i chwarae 34 o gemau a sgorio14 o goliau dros Gaerdydd wrth i'r Adar Gleision orffen yn 11eg yn [[Y Gynghrair Bêl-droed|yr Adran Gyntaf]]<ref>{{cite web |url=http://www.statto.com/football/teams/cardiff-city/1924-1925 |title=Cardiff City 1924-25 |published=Statto.com |work=Statto.com}}</ref> a chyrraedd rownd derfynol [[Cwpan FA Lloegr]] yn erbyn [[Sheffield United F.C.|Sheffield United]].<ref name="FACup1925" /> Colli oedd hanes Caerdydd ac erbyn mis Tachwedd 1925 roedd Beadles wedi ei werthu i [[Sheffield Wednesday F.C.|Sheffield Wednesday]]. Ni chwaraeodd yr un gêm i Wednesday cyn symud i [[Southport F.C.|Southport]] yn [[Y Gynghrair Bêl-droed|Nhrydedd Adran (Y Gogledd)]] naw mis yn ddiweddarach.