Maelor Gymraeg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gweler hefyd: newidiadau man using AWB
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Coat of arms of Powys Fadog.svg|de|170px|de|Arfbais Powys Fadog]]
[[Cwmwd]] yng ngogledd-ddwyrain [[Cymru]] yn yr [[Oesoedd Canol]] oedd ''Maelor Gymraeg''. Fe'i gelwid felly i'w gwahaniaethu oddi ar ei gymydog [[Maelor Saesneg]]. Creuwyd y cymydau hyn tua'r flwyddyn [[1202]] pan ranwyd [[cantref]] [[Maelor]] yn ddwy ran gan dywysogion [[Powys Fadog]] gydag [[afon Dyfrdwy]] yn ffin naturiol rhyngddynt. Mae'r enw Maelor Gymraeg yn dyddio o'r cyfnod ar ôl goresgyniad [[Tywysogaeth Cymru]] gan [[Edward I o Loegr]] (1282-3).
 
Gorweddai'r cwmwd i'r gorllewin o Afon Dyfrdwy. Ffiniai'r Maelor Gymraeg ag [[Iâl]] ac [[Ystrad Alun]] i'r gogledd, iarllaeth [[Caer]] a'r [[Maelor Saesneg]] i'r dwyrain, a'r [[Y Traean|Traean]] (hen gwmwd Cymreig a ddaeth yn rhan o ardal [[Croesoswallt]]) a [[Nanheudwy]] i'r de.