Cwmwd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn yr Oesoedd Canol oedd Maelor Gymraeg. Fe'i gelwid felly i'w gwahaniaethu oddi ar ei gymydog Maelor Saesneg. Creuwyd y cymydau hyn tua'r flwyddyn 1202 pan ranwyd cantref Maelor yn ddwy ran gan dywysogion Powys Fadog gydag afon Dyfrdwy yn ffin naturiol rhyngddynt. Mae'r enw Maelor Gymraeg yn dyddio o'r cyfnod ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru gan Edward I o Loegr (1282-3).

Maelor Gymraeg
Mathcwmwd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arfbais Powys Fadog
Arfbais Powys Fadog

Gorweddai'r cwmwd i'r gorllewin o Afon Dyfrdwy. Ffiniai'r Maelor Gymraeg ag Iâl ac Ystrad Alun i'r gogledd, iarllaeth Caer a'r Maelor Saesneg i'r dwyrain, a'r Traean (hen gwmwd Cymreig a ddaeth yn rhan o ardal Croesoswallt) a Nanheudwy i'r de.

Bangor Is Coed gyda'i fynachlog Frythonaidd gynnar oedd canolfan bwysicaf y cwmwd.

Yn 1282 unwyd Maelor Gymraeg ac Iâl i ffurfio arglwyddiaeth Brwmffild a Iâl, gyda'i phencadlys yng Nghastell Holt. Yn 1536, daeth Maelor Gymraeg yn rhan o'r hen Sir Ddinbych. Heddiw mae'n gorwedd ym mwrdeistref sirol Wrecsam.

Hen blwyfi

golygu

Gweler hefyd

golygu