Sgrafelliad (daeareg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|Arfordir Gwlad Pwyl gan ddangos erydu arfordirol. Crafiad mecanyddol yw '''sgrafelliad''' sy'n digwydd pan fo un craig yn crafu w...'
 
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
categoriau
Llinell 2:
Crafiad mecanyddol yw '''sgrafelliad''' sy'n digwydd pan fo un craig yn crafu wyneb craig arall. Mae'r creigiau, neu'r tameidiau mân o gerrig yn naddu'r wyneb wrth iddynt gael eu symud gan y [[gwynt]], [[rhewlif]], [[ton]]nau, [[disgyrchiant]] [[erydiad]] neu [[dŵr|ddŵr rhedegog]]. Mae ffrithiant yn rhan o'r broses hon o sgrafellu, drwy rwbio yn erbyn darnau rhydd neu wan oochr y graig gan achosi i rannau ohono ddod yn rhydd.
 
Mae cryfder y sgrafellu'n dibynnu ar galedwch ycreigiauy creigiau, y dwysedd, y cyflymder a masmás y creigiau sy'n symud.
 
==Sgrafelliad fel rhan o erydu'r arfordir==
Digwydd sgrafelliad arfordirol pan fo'r tonnau sy'n torri yn cynnwys [[tywod]] a cherrig wrth iddynt daro yn erbyn creigiau'r arfordir. Drwy naddu'n isel i fewn i'r graig ceir cwymp neu dirlithriad yn y rhan uchaf a thirlithriad.
 
==Sgrafelliad rhewlifol==
Llinell 24:
Caiff y term cyffredinol hwn ei ddefnyddio i ddisgrifio ‘teulu’ o wahanol blicnodau, sef pantiau neu graciau garw eu gwedd a grëir wrth i iâ wedi’i arfogi â deunydd sgrafellog bras, megis cerigos (pebbles) neu hyd yn oed clogfeini, lifo dros arwynebau creigiau gan blicio oddi arnynt asglodion a’u sgubo ymaith. Y ffurfiau mwyaf trawiadol yw plicnodau crymanaidd (''lunate fractures'') a phlicnodau gwrthgrymanaidd (''crecentic gouges'') sy’n mesur ychydig gentimetrau neu dros fetr ar draws. Er bod y naill ffurf yn ddrych-ddelwedd o’r llall, mae’r plicnodau hyn yn meddu ar hydbroffil anghymesur tebyg i’w gilydd, gan fod y microdarren (''micro-scarp'') serth yn wynebu’n groes i gyfeiriad llif yr iâ. Felly, mae modd eu defnyddio i ail-greu patrwm symud y rhewlif neu’r llen iâ a’u creodd. Llwyddwyd i greu plicnodau crymanaidd a phlicnodau gwrthgrymanaidd mewn arbrofion labordy drwy greithio gwydr optegol gyda chymorth pelferyn dur. Crëwyd plicnodau crymanaidd drwy wthio’r bêl yn ei blaen heb adael iddi rolio, ond os caniatawyd iddi rolio, crëwyd plicnodau gwrthgrymanaidd.
 
Adlewyrchiad o batrwm cyfres o blanau torri bwaog (arcuate fracture planes), sydd naill ai’n goleddu i’r un cyfeiriad â llif yr iâ neu’n groes iddo, yw craciau crymanaidd (''crecentic fractures'') a chan eu bod yn meddu ar ochrau atrew (''onset side of ice'') amgrwm ac ochrau gwrthrew (''lee side of ice'') ceugrwm, mae modd defnyddio’r plicnodau ffrithiant hyn hefyd i ail-greu patrwm symud y rhewlif neu’r llen iâ a’u creodd. Mae rhewgreithiau (''chatter-marks'') yn ymdebygu i graciau crymanaidd bach ond nid yw plân torri pob rhewgraith unigol yn ymestyn yn ddyfnach na’r graith a adewir ar ôl wedi i’r asglodyn gael ei sgubo ymaith. Yn ôl rhai, mae rhewgreithiau yn nodweddu lloriau rhigolau mawr yn unig.
 
Mae planau torri plicnodau concoidaidd (''conchoidal fractures'') yn geugrwm ar i fyny ond nid yw ffurf y math yma o blicnod ffrithiant yn ddangosydd dibynadwy o gyfeiriad llif yr iâ.
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 34:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
[[Categori:Daeareg]]
[[Categori:Rhewlifeg]]