Cerddoriaeth Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
chwaneg
Llinell 1:
Mae gan '''gerddoriaeth Cymru''' hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y [[18fed ganrif]] pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc. Cyfeirir at Gymru'n aml fel "Gwlad y Gân", yn ystrydebol braidd. Erbyn heddiw mae Cymru'n enwog am eu cerddorion cyfoes fel [[Bryn Terfel]] ym myd [[opera]] a grwpiau fel [[Manic Street Preachers]] a [[Catatonia]] ym myd [[roc]].
 
==Hanes==
Yn yr [[Yr Oesoedd Canol Diweddar yng Nghymru|Oesoedd Canol Diweddar]] ceir nifer o gyfeiriadau yng ngwaith [[Beirdd yr Uchelwyr]] at gerddororion crwydrol yn canu ar y [[telyn|delyn]] neu'r [[crwth]]. Roedd [[pib]]au'n offerynnau cyffredin hefyd. Roedd y [[datgeiniad|datgeiniaid]] a rhai o'r beirdd yn arfer datgan eu cerddi i gyfeiliant y delyn. Etifedd y traddodiad hwnnw yw [[Cerdd Dant]] heddiw.
 
Llinell 7 ⟶ 8:
Yn ail hanner y [[19eg ganrif]] daeth [[côr meibion|corau meibion]] yn boblogaidd ac roedd y [[Gymanfa Ganu]] yn denu miloedd.
 
==Cerddoriaeth glasurol==
Ym myd [[cerddoriaeth glasurol]] mae traddodiad Cymru yn dechrau gyda'r [[offeren]]au crefyddol [[Lladin]] a genid yn yr Oesoedd Canol. Mae'r wlad wedi cynhyrchu sawl [[cyfansoddwr]] adnabyddus fel [[Alun Hoddinott]], a chantorion byd-enwog fel [[Bryn Terfel]] a [[Katherine Jenkins]]. Yn ogystal mae gan Gymru ei cherddorfa genedlaethol, [[Cerddorfa Genedlaethol Cymru]], a chwmni opera o fri rhyngwladol, sef [[Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru]].
 
==Cerddoriaeth boblogaidd==
[[Delwedd:Tebotpiws3.jpg|150px|bawd|''Rhywun wedi dwyn fy nhrwyn'' gan [[Y Tebot Piws]] ([[1971]])]]
Ceir canu[[cerddoriaeth poblogaiddboblogaidd]] o bob math yn y Gymraeg, a ddechreuodd gyda [[canu gwlad]] yn y [[1960au]] ond a ymledodd i gynnwys canu roc a phop o ddiwedd y ddegawd honno ymlaen. Mae enwau mawr o'r Oes Aur yn cynnwys [[Meic Stevens]], [[Geraint Jarman]], [[Bryn Fôn]], [[Geraint Lovegreen]], [[Y Tebot Piws]] a [[Bob Delyn a'r Ebillion]].
 
Yn Saesneg cafwyd grwpiau fel [[Amen Corner]] ac yn fwy diweddar y [[Super Furry Animals]].
 
Mae bodolaeth [[BBC Radio Cymru|Radio Cymru]] wedi bod yn bwysig iawn i alluogi cerddorion Cymraeg i gyrraedd eu cynulleidfa. Yn Saesneg mae [[BBC Radio Wales|Radio Wales]] wedi bod yn llwyfan bwysig hefyd. Yn ogystal mae [[S4C]] yn cynnig lle i gerddoriaeth Gymraeg, er iddo gael ei feirniadu gan rai bobl am fod yn geidwadol a "chanol y ffordd."
 
==Cyfryngau a stiwdios==
Erbyn heddiw mae sawl cwmni recordio yng Nghymru. Y pwysicaf yw Cwmni [[Sain]], a sefydlwyd gan [[Dafydd Iwan]], un o gantorion mwyaf poblogaidd y wlad o hyd. Mae cwmnïau eraill yn cynnwys [[Fflach]] ac [[Ankst]].
 
Mae gwyliau cerddorol wedi tyfu yn ddiweddar ac yn rhan annatod o'r diwylliant Cymreig. Maent yn cynnwys [[Gŵyl y Faenol]], a drefnir gan Bryn Terfel ar Stad y Faenol ger [[Bangor]], a [[Sesiwn Fawr Dolgellau]].
 
==Gweler hefyd==
* [[Cerdd Dant]]
* [[Cerddoriaeth Gymraeg]]
* [[Hen Wlad Fy Nhadau]]
Llinell 26 ⟶ 35:
[[Categori:Cerddoriaeth Cymru|*]]
[[Categori:Diwylliant Cymru]]
 
[[en:Music of Wales]]