Llyfr Llandaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) cat |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
||
Llinell 1:
Llawysgrif o'r [[12fed ganrif]] yw '''Llyfr Llandaf''' ([[Lladin]]: ''Liber Landavensis''). Mae'r llaysgrif, sy'n cynnwys 128 o dudalennau vellum, yn ffynhonnell bwysig ar gyfer hanes eglwysig Cymru.
Credir i Lyfr Llandaf gael ei ysgrifennu rhwng [[1120]] a [[1140]], dan arolygaeth Urban, [[Esgob Llandaf]]. Roedd anghydfod rhwwng Llandaf ac esgobion [[Esgob Tyddewi|Tyddewi]] a [[Henffordd]] ynghylch ffiniau'r esgobaeth, a bwriad y llyfr oedd profi hawliau Llandaf. Cynhwysir copiau o nifer fawr o siarteri yn amlinellu rhoddion o dir ac eiddo cyn belled yn ôl a'r [[5ed ganrif]]; rhai o'r siarteri yn rhai dilys ond eraill yn ffugiadau. O'r siarteri dilys, mae tua 40% yn perthyn i'r [[8fed ganrif]] a 20% i ran olaf y [[9fed ganrif]]. Ceir hefyd
Ychydig yn ddiweddarach, yn y 12fed ganrif a dechrau'r [[13ef ganrif]], ychwanegwyd bucheddau'r seintiau [[Samson]] ac [[Elgar]] a nifer o lythyrau.
Mae'r hanesydd [[Wendy Davies]] wedi ceisio ail-greu llawr o'r testunau gwreiddiol. Roedd y llawysgrif yn eiddo i deulu Davies, [[Llanerch]] yn y [[17eg ganrif]]. Mae yn awr yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], MS 17110 E. Bwriedir ei hail-rwymo yn ystod [[2007]].
==Llyfryddiaeth==
*J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (eds.), ''The Book of Llandâv'' (Rhydychen, 1893).
* Wendy Davies, ''Early Welsh Microcosm: Studies in the Llandaff Charters'' (1978)
* ''idem''., ''The Llandaff Charters'' (1979)
==External link==
* [http://digidol.llgc.org.uk/METS/LIB00001/physical?div=0&subdiv=0&locale=en&mode=thumbnail ''Liber Landavensis: fersiwn digidol,'' Llyfrgell Genedlaethol Cymru]
|