Hanes Taliesin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Wedi bwyta Gwion beichiogodd Ceridwen, a naw mis yn ddiweddarach ganwyd plentyn iddi. Gwyddai Ceridwen mai Gwion Bach oedd y plentyn, ond roedd mor dlws fel na all ei ladd. Gosododd ef mewn cawell a'i daflu i'r môr. Darganfyddwyd y baban gan [[Elffin]], mab [[Gwyddno Garanhir]], sy'n rhoi yr enw Taliesin arno. Yn ddiweddarch mae Elffin yn mynd a Thaliesin i lys [[Maelgwn Gwynedd]] yn [[Deganwy|Neganwy]], lle mae'n ennill gornest yn erbyn beirdd Maelgwn.
 
Ceir hanes tebyg iawn ym [[Mytholeg Iwerddon]] am yr arwr [[Fionn mac Cumhaill]]. Pan oedd yn ieuanc bu Fionn yn ddisgybl i'r bardd a [[derwydd]] [[Finn Eces]] neu Finnegas, ger [[Afon Boyne]]. Treuliodd Finneces saith mlynedd yn ceisio dal "eog doethineb", oedd yn byw mewn pwll yn yr afon. Byddai'r sawl a fwytai'r eog yma yn berchedberchen ar yr holl wybodaeth yn y byd. Yn y diwedd, daliodd Finneces yr eog a gorchymynodd i Fionn ei goginio iddo. Wrth wneud, llosgodd Fionn ei fawd ar yr eog, a rhoddodd ei fawd yn ei geg, gan lyncu darn o groen yr eog, gan ddod yn berchen yr holl wybodaeth yn lle ei feistr.
 
==Llyfryddiaeth==