Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Sarn Badrig"

Ychwanegwyd 18 beit ,  15 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
(cat)
BNo edit summary
Sarn neu rîff dan y môr ym [[Bae Ceredigion|Mae Ceredigion]] yw '''Sarn Badrig'''. Mae'n ymestyn tua'r de-orllewin o'r arfordir ger Mochras, gerllaw [[Llanbedr, Ardudwy|Llanbedr]] am tua 24 km. Dim ond ar lanw isel iawn y gellir gweld y sarn, ond gan ei bod yn weddol agos at yr wyneb, mae'n medru bod yn beryglus i gychod. Credir i'r sarn gael ei chreu gan rewlif yn ystod [[Oes yr Ia]] yn gadael gweddillion clai clogfaen. Ceir amrywiaeth ddiddorol o wymon y môr ar y sarn, ac o'r herwydd mae'n Ardal Gadwraeth Arbennig.
 
Mewn chwedl, Sarn Badrig yw gweddillion y mur oedd yn gwarchod [[Cantre'r Gwaelod]] rhag y môr. Awgryma'r enw gysylltiad a Sant [[Padrig]]; y syniad mae'n debyg oedd ei bod yn sarn a ddefnyddiai ef i gerdded i [[Iwerddon]].
37,236

golygiad