Sousse: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 250px|bawd|Casbah Sousse a rhan o'r ''medina'' Mae '''Sousse''' (Arabeg: سوسة) yn ddinas a phorthladd yn nwyrain canolbarth Tunisia, sy'n go...
 
chwaneg
Llinell 2:
Mae '''Sousse''' ([[Arabeg]]: سوسة) yn ddinas a phorthladd yn nwyrain canolbarth [[Tunisia]], sy'n gorwedd 140 km i'r de o'r brifddinas [[Tunis]], ar [[Gwlff Hammamet]] ([[Môr Canoldir]]). Sousse yw prif ddinas rhanbarth y [[Sahel (Tunisia)|Sahel]] (llysenw: 'perl y Sahel') a phrifddinas [[Sousse (talaith)|talaith Sousse]]. Mae gan y ddinas boblogaeth o 173,047 o bobl, ffigwr sy'n tyfu i tua 400,000 pan gynhwysir ei maerdrefi allanol, sy'n ei gwneud yr ardal ddinesig 3ydd mwyaf yn Tunisia (ar ôl [[Tunis]] a [[Sfax]]). Maes awyr Sousse yw'r ail brysuraf yn y wlad.
 
Mae Sousse yn ddinas hynafol gyda'r mwyaf diddorol yn y wlad. Sefydlwyd dinas ''Hadrumete'' (neu ''Hadrumetum'': gelwir Sousse yn ''Hadramaout'' gan rai o'i thrigolion hyd heddiw) gan y [[Ffeniciaid]]. Roedd yn ddinas [[Rhufeiniaid|Rufeinig]] lewyrchus a gwelir [[catacomb]]s o'r cyfnod yno heddiw. Codwyd nifer o adeiladau gwych yn yr hen ddinas (''medina'' Sousse), sydd ar restr [[safleoedd Treftadaeth y Byd]] [[UNESCO]]. Erbyn heddiw mae [[twristiaeth]] yn ganolog i'r economi ; er nad yw'r ddinas ei hun yn gartref i lawer o westai mawr, mae'n gorwedd yn agos i ganolfannau gwyliau [[Monastir]] a [[Hammamet]].
 
==Llyfryddiaeth==
*Néji Djelloul, ''Sousse, l'antique Hadrumetum'' (Contraste, 2006)
*Ameur Baâziz, ''Si Soussa m'était contée'' (2005)
 
==Dolenni allanol==
* [http://commune-sousse.gov.tn/ Gwefan swyddogol y ddinas]
 
{{eginyn}}
 
[[Categori:Dinasoedd Tunisia]]