Tiwnisia
Gwlad Arabaidd yng Ngogledd Affrica, sy'n gorwedd rhwng Algeria yn y gorllewin a Libia yn y dwyrain, ac yn wynebu Sisili a de'r Eidal a Môr y Canoldir yn y gogledd yw Gweriniaeth Tiwnisia.[1] Ei phrifddinas yw Tiwnis.
Arwyddair | Rhyddid, urddas, cyfiawnder, a threfn |
---|---|
Math | gwlad, gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, un o wledydd môr y canoldir |
Enwyd ar ôl | Tiwnis |
Prifddinas | Tiwnis |
Poblogaeth | 11,565,204 |
Sefydlwyd | 20 Mawrth 1956 (Teyrnas) 25 Gorffennaf 1957 (Gweriniaeth) |
Anthem | Himat al Hima |
Pennaeth llywodraeth | Ahmed Hachani |
Cylchfa amser | UTC+01:00, CET, UTC+2, Africa/Tunis |
Gefeilldref/i | Seto |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Affrica, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 163,610 ±1 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Libia, Algeria |
Cyfesurynnau | 34°N 10°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Tiwnisia |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cynrychiolwyr y Bobl |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Tiwnisia |
Pennaeth y wladwriaeth | Kais Saied |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Tiwnisia |
Pennaeth y Llywodraeth | Ahmed Hachani |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $46,687 million, $46,665 million |
Arian | Dinar Tiwnisaidd |
Canran y diwaith | 13 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 2.2 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.731 |
Daearyddiaeth
golygu- Prif: Daearyddiaeth Tiwnisia
Lleolir Tiwnisia ar ran fwyaf gogleddol cyfandir Affrica, ar ganol arfordir y gogledd. Ynys Sicilia yw'r tir Ewropeaidd agosaf, 80 km i'r gogledd-ddwyrain dros Gulfor Sicilia. Ar y tir Algeria a Libia yw ei chymdogion. Mae ganddi arfordir 1400 km hir ac amrywiol ar y Môr Canoldir.
Gydag arwynebedd tir o ddim ond 164,000 km², Tiwnisia yw'r wlad leiaf yng Ngogledd Affrica. Mae'n mesur 750 km o'r anialwch yn y de i'r Cap Blanc, pwynt mwyaf gogleddol cyfandir Affrica, yn y gogledd, ond dim ond 150 km ar ei lletaf o'r dwyrain i'r gorllewin. Yn dopograffyddol mae'r wlad yn ymrannu'n ddwy ardal; y gogledd mynyddig a'r de lled-wastad.
Y prif gadwyn mynydd yw'r Dorsal, sy'n estyniad dwyreiniol i gadwyn hir Mynyddoedd yr Atlas sy'n cychwyn ym Moroco yn Atlas Uchel. Mae'n rhedeg ar gwrs gogledd-ddwyreiniol o Tébessa ar y ffin ag Algeria hyd Zaghouan i'r de o Diwnis. Mae'n cynnwys y pwynt uchaf yn y wlad, Jebel Chambi (1544m), i'r gorllewin o Kasserine. Mae'r Dorsal yn gorffen mewn cyfres o fryniau isel yng ngorynys Cap Bon.
Gorwedd y rhan fwyaf o dir amaethyddol da y wlad i'r gogledd o'r llinell hon. Yn hanesyddol hon oedd grawnfa y Rhufain hynafol. Mae'n cynnwys gwastadeddau uchel y Dorsal ei hun, sef y Tell, a dyffryn ffwrythlon afon Medjerda. Afon Medjerda yw'r unig afon barhaol yn y wlad. I'r gogledd o ddyfryn Medjerda ceir mynyddoedd coediog y Kroumirie, sy'n ymestyn ar hyd arfordir y gogledd o'r ffin ag Algeria, ger Tabarka, i gyfeiriad Bizerte, ger Tiwnis, lle mae'n rhedeg allan mewn gwastadedd arfordirol isel.
I'r de o'r Dorsal ceir ardal eang o wastadedd di-goed, rhwng 200m-400m uwch lefel y môr. Dyma'r Sahel, sy'n enwog am ei holewydd a'i dêts. Ymhellach i'r de mae'r tir yn troi'n fwyfwy sych a cheir sawl chott (llyn halen) yma ac acw. Serch hynny mae'r tir ar hyd yr arfordir yn ffrwythlon lle ceir dŵr ac yn cynnal rhai trefi mawr megis Sousse a Sfax.
I lawr yn y de ei hun mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn orchuddiedig gan y rhan ddwyreiniol yr Erg Mawr Dwyreiniol, sy'n llenwi rhan fawr o dde-ddwyrain Algeria yn ogystal ac yn rhan o aniladiroedd y Sahara. Yr unig dir ffrwythlon yw'r gwerddonau a'r stribed o dir ar yr arfordir.
- Gweler hefyd:Rhestr dinasoedd a threfi yn Nhiwnisia
Hinsawdd
golygu- Prif: Hinsawdd Tiwnisia
Mae gan ogledd Tiwnisia hinsawdd sy'n nodweddiadol o'r Môr Canoldir, gyda hafau hir, sych a phoeth a gaeafau cymhedrol a gwlyb. Mae mynyddoedd y Dorsal a Kroumirie yn cael eira weithiau. Wrth fynd i'r de mae'r hinsawdd yn troi'n boethach a sychach gyda phrin modfedd o law yn disgyn mewn blwyddyn yn yr Erg Mawr.
Hanes
golygu- Prif: Hanes Tiwnisia
Mae gan Tiwnisia hanes hir a chyfoethog. Berberiaid oedd y trigolion brodorol. Glaniodd y Ffeniciaid yn yr 8g CC a sefydlu dinas Carthago (Carthag) a dyfodd i fod yn un o ddinasoedd grymusaf yr Henfyd gyda thir a dinasoedd yn ei meddiant ar hyd arfordir y Maghreb (Moroco ac Algeria heddiw), yn Sisili, Sardinia a'r Ynysoedd Balearig a dwyrain Sbaen. Yn Nhiwnisia ei hun roedd 'na ddinasoedd pwysig yn Utica, Kerkouane, Hadrametum (Sousse heddiw) a lleoedd eraill.
Yn yr olaf o'r tri Rhyfel Pwnig syrthiodd Carthago a'i chwaer-ddinasoedd yn Nhiwnisia i ddwylo'r Rhufeiniaid. Daeth y rhan fwyaf o Diwnisia yn dalaith Rufeinig a elwid Affrica am mai Ifriquiya oedd yr enw brodorol am ogledd Tiwnisia gan y Berberiaid. Blodeuodd Carthago eto fel dinas Rufeinig a chodwyd nifer o ddinasoedd a threfi eraill sy'n cynnwys rhai o'r safleoedd archaeolegol Rhufeinig gorau yn y byd heddiw, e.e. Dougga, Bulla Regia, El Djem a Sbeitla.
Iaith a Diwylliant
golygu- Prif: Diwylliant Tiwnisia
Mae Tiwnisia yn wlad ddwyieithog gyda dwy iaith swyddogol, sef Arabeg a Ffrangeg. Arabeg yw mamiaith pawb bron ond mae Ffrangeg yn cael ei siarad yn dda gan bobl sydd wedi derbyn addysg. Defnyddir Ffrangeg i gyd ag Arabeg mewn sefydliadau addysg uwch. Ceir rhaglenni Ffrangeg ar y teledu ac mae radio yn yr iaith yn gwasanaethu'r wlad o Diwnis. Cyhoeddir sawl papur newydd a chylchgrawn Ffrangeg yn ogystal. Mae gan Tiwnisia lenyddiaeth fywiog yn yr iaith Ffrangeg hefyd. Mewn rhannau o'r de a'r dwyrain ceir ychydig o siaradwr iaith Berber.
Mae hanes llenyddiaeth Tiwnisia yn gyfoethog. Llenyddiaeth Ffrangeg yw'r diweddaraf i ymuno â'i ffrwd. Cyn hynny roedd gan y wlad lenorion yn yr iaith Ffeniceg a'r iaith Ladin. Cynhyrchodd y wlad llenorion enwog fel Terens, Apuleius a Sant Awstin yn ystod y cyfnod clasurol. Arabeg yw iaith bwysicaf hanes llenyddiaeth Tiwnisia, wrth gwrs, ac yn cynnwys yn ei datblygiad ffigurau fel yr hanesydd enwog Ibn Khaldun. Y llenor diweddar mwyaf dylanwadol oedd Chebbi.
O ran crefydd, mae 99% o'r boblogaeth yn Fwslemiaid ond ceir rhai Cristnogion hefyd, yn arbennig yn nhrefi'r gogledd. Ar un adeg bu gan y wlad boblogaeth bur sylweddol o Iddewon, yn arbennig yn y brifddinas ac yn Djerba, ond ymudodd y mwyafrif ohonynt yn sgîl sefydlu Israel.
Economi
golyguMae Tiwnisia yn wlad gymharol ddatblygedig sy'n un o sefydlwyr Undeb y Maghreb Arabaidd.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, [Tiwnisia].
Dolenni Allanol
golyguLlywodraeth Tiwnisia a Newyddion am y wlad
golygu- Llywodraeth Tiwnisia (Ffrangeg)
- AllAfrica.com - Tiwnisia - penawdau newyddion
- Cyfryngau Tiwnisia Arlein (swyddogol) Archifwyd 2008-10-09 yn y Peiriant Wayback
- The North Africa Journal - newyddion economaidd a busnes Archifwyd 2008-09-07 yn y Peiriant Wayback
- Newyddion am y Maghreb
Arolygon
golygu- Proffeil gwlad Newyddion BBC - Tiwnisia
- Encyclopaedia Britannica, Tiwnisia
- Ffeithlyfr y CIA - TiwnisiaArchifwyd 2012-10-14 yn y Peiriant Wayback
- Gwybodaeth gyffredinol a bywgraffiadur